Datganiad gan Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012:
21 Tachwedd 2012
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys yn fuddugoliaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cadarnhau’r cyngor cyfreithiol awdurdodol a roddwyd i mi ac yn dangos bod y Cynulliad yn sefydliad aeddfed a bod ganddo’r gweithdrefnau cywir a’r staff i ddehongi a gweithredu’r setliad datganoli.
“Mae ein system ddeddfu yng Nghymru yn unigryw ac mae’n parhau i ddatblygu. Mae ein dull yn fwy cymhleth na’r hyn a geir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’r dyfarniad hwn heddiw yn bennod arall yn y broses honno, sy’n adlewyrchu’r ffaith bod y Cynulliad yn gwneud cyfreithiau da i Gymru.
“Rwy’n croesawu’r dyfarniad heddiw ac rwy’n ddiolchgar i’r Goruchaf Lys am archwilio’r mater mor drylwyr.”