Datganiad gan y Fforwm Rhyngseneddol ar adael yr Undeb Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 19/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae’r Fforwm Rhyngseneddol ar adael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynnwys Cadeiryddion, Cynullwyr a chynrychiolwyr o bwyllgorau sy’n craffu ar faterion ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, wedi cyhoeddi’r datganiad a ganlyn yn dilyn ei gyfarfod diweddaraf:

"Heddiw, fe wnaethom ni Gadeiryddion, Cynullwyr a chynrychiolwyr y Pwyllgorau, sy'n craffu ar faterion sy'n ymwneud â Brexit yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, gyfarfod yn Nhŷ'r Arglwyddi ar gyfer ail gyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit, i drafod y broses o'r DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a'n gwaith craffu ar y cyd ar y broses honno. Roedd swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedyddion. 

"Sefydlwyd y Fforwm Rhyngseneddol allan o gydnabyddiaeth, er gwaethaf ein gwahanol safbwyntiau gwleidyddol a'n safbwyntiau ar Brexit, fel seneddwyr yn ein deddfwrfeydd perthnasol rydym yn wynebu heriau cyffredin: ceisio sicrhau'r canlyniad gorau i'r bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli; dwyn Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig i gyfrif am eu rôl yn y broses; craffu ar effeithiau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a deddfwriaeth gysylltiedig, gan gynnwys y broses cydsyniad deddfwriaethol; deall goblygiadau Brexit ar gyfer dyfodol y setliadau datganoli; a cheisio pennu natur cydberthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol. 

"Wrth i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gwblhau ei gamau yn Nhŷ'r Cyffredin, rhoddodd y cyfarfod heddiw gyfle amserol inni rannu gwybodaeth am y gwaith y mae pob un o'n Pwyllgorau a'n deddfwrfeydd yn ei wneud. Rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar oblygiadau Cymal 11 y Bil ar gyfer y setliadau datganoli, a thrafodaethau ar fframweithiau posibl ledled y DU, ac rydym yn cydnabod safbwyntiau cryf aelodau Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar y mater hwn. Gwnaethom gwrdd â Chloe Smith AS, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad, Swyddfa'r Cabinet, ac rydym wedi gwneud yn glir iddi ein gwahanol safbwyntiau ar y cwestiynau pwysig hyn. Rydym yn annog y Llywodraeth i ystyried yr holl safbwyntiau hyn wrth i Dŷ'r Arglwyddi ddechrau craffu ar y ddeddfwriaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. 

"Bydd y Fforwm yn cwrdd eto ym mis Mawrth 2018, pan fyddwn yn adolygu cynnydd y trafodaethau Brexit eto a'r ddeddfwriaeth ddomestig gyfochrog."