Yn sylwebu ar y newyddion bod AS dros Gaerffili Hefin David wedi marw, dywedodd y Llywydd Elin Jones:
"Mae’r newyddion trasig am farwolaeth Hefin wedi bod yn dorcalonnus i ni fel cymuned y Senedd. Mae ein meddyliau gyda’i bartner, ein cydweithiwr a'n ffrind, Vikki Howells AS a’i blant a'i deulu annwyl.
"Roedd Hefin yn llawn bywyd a brwdfrydedd dros ei etholwyr a'u hachosion. Roedd yn wleidydd angerddol, yn ffyddlon i'w blaid, ei wlad, a'i etholwyr. Roedd yn gallu gweithio'n effeithiol ar draws pleidiau a cheisio tir cyffredin.
"Roedd Hefin yn arbennig o boblogaidd ar draws y Senedd. Roedd ganddo’r ddyletswydd hefyd fel ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros Gyllid ac ymgymerodd â'r rôl honno yn ddiwyd ac yn fedrus.
"Mae'r newyddion yn dorcalonnus ac yn ein hatgoffa o ba mor fregus yw bywyd a'r angen i ni i gyd gefnogi ein gilydd."