“Daeth y newyddion trist am farwolaeth Carl Sargeant AC fel sioc enfawr i mi. Gwasanaethodd bobl Alun a Glannau Dyfrdwy gyda balchder a dycnwch a bu ei gyfraniad at ddatblygiad y sefydliad democrataidd hwn yn un enfawr.
“Fel arwydd o barch i Carl, ni fydd y Cynulliad yn cwrdd heddiw. Byddwn oll am fyfyrio cyn rhoi teyrnged glodwiw iddo dros y dyddiau nesaf.
Ar ran yr holl Aelodau a phawb sydd yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dymunaf ddatgan fy nghydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i gyd-weithwyr.”