Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol yn dilyn cefnogaeth unfrydol y Cynulliad i ymgynghori ynghylch diwygio’r Cynulliad:
“Rwy’n croesawu cefnogaeth unfrydol y Cynulliad ddoe i alluogi’r Comisiwn i ymgynghori ar gyfres o ddiwygiadau posibl i system etholiadol, capasiti a threfniadaeth y Cynulliad. Hoffwn ddiolch i’m cyd-aelodau am natur gadarnhaol ein trafodaeth heddiw ar faterion dyrys a heriol.
Mae’r pwerau a drosglwyddodd o San Steffan i’r Cynulliad yn sgil pasio Deddf Cymru 2017 yn ein galluogi i benderfynu ar etholiadau a threfniadau ein deddfwrfa ein hunain am y tro cyntaf. Ac felly fe ddechreuwn drafodaeth gyda phobl Cymru ynglŷn â’u gobeithion a’u huchelgais nhw ar gyfer eu Senedd dros y misoedd nesaf.
Fe glywais neges gref gan Aelodau am bwysigrwydd esbonio’r cynlluniau yn drylwyr a chlir i bobl Cymru, ac am bwysigrwydd creu Senedd sy’n adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n eu cynrychioli gan gynnwys lleisiau pobl ifanc a menywod. Bydd ein cynlluniau ar gyfer ymgynghori yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hyn a byddwn yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau yr wythnos nesaf.”