Datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 09/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

9 Chwefror 2011

Heddiw (dydd Mawrth 8 Chwefror) mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi derbyn ymddiswyddiad archwilwyr allanol cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn archwilio’r cyfrifon hyn ar ôl i bryderon gael eu mynegi ynghylch cywirdeb datganiadau ariannol y sefydliad rhwng 2005 a 2010 ac, fel rhan o’i ymchwiliad, mae wedi ystyried rôl KTS Owens Thomas.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan KTS Owens Thomas yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr ac roedd yn parhau i bryderu am rhai materion ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Dywedwyd wrth yr archwilwyr allanol am y pryderon hyn, a ddoe cafodd Darren Millar AC lythyr ymddiswyddo gan KTS Owens Thomas. Dywed y llythyr:

“..there has been an irretrievable breakdown in the professional relationship between ourselves and our client….this has made the prospect of us continuing in office untenable.”

Dywedodd Darren Millar AC:

“Fel Pwyllgor mae gennym nifer o bryderon ynghylch y modd y cafodd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol eu paratoi mewn blynyddoedd blaenorol.

“Er mai’r Archwilydd Cyffredinol sy’n bennaf gyfrifol am hyn, roedd rhaid i ni ystyried rôl yr archwilwyr allanol hefyd.

“Ar ôl edrych yn ofalus ar eu rôl, codwyd nifer o bryderon gennym â KTS Owens Thomas, ac maent bellach wedi ymddiswyddo.

“Byddwn nawr yn troi ein sylw at benodi archwilwyr newydd ac at gwblhau ein hymchwiliad i rôl Swyddfa Archwilio Cymru yn y gwaith o baratoi ei chyfrifon.”

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nawr yn cymryd y camau angenrheidiol i benodi archwilwyr newydd ar gyfer cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’r gwaith o ymchwilio i’r broses o baratoi cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, ac mae’r Pwyllgor yn bwriadu adrodd ar ei ganfyddiadau mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru cyn diwedd mis Mawrth.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried y mater o benodi archwilwyr newydd yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2011.

Mae’r trawsgrifiad o’r dystiolaeth a roddodd KTS Owens Thomas i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 19 Ionawr ar gael ar wefan y Cynulliad.