Datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar brosiectau trafnidiaeth mawr
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud y datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar brosiectau trafnidiaeth mawr.
Dywedodd Darren Millar AC: “Daw adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol flwyddyn wedi i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ei adroddiad ei hun – adroddiad a oedd yn feirniadol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei Blaenraglen Cefnffyrdd.
“Mae’r adroddiad hwn heddiw yn codi pryderon newydd am yr oedi a’r cynnydd mewn costau, nid ar gyfer prosiectau cefnffyrdd yn benodol ond ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mawr eraill a gaiff eu rheoli gan awdurdodau lleol ond a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
“Er bod y prosiectau hyn yn llawn risgiau ac ansicrwydd, rwy’n pryderu a yw’r materion hyn wedi’u hystyried yn ddigonol wrth amcangyfrif costau ac amseroedd cwblhau prosiectau.
“Mae’n dda gweld bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y meysydd lle mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella ei threfniadau ar gyfer darparu, neu oruchwylio’r broses o ddarparu, prosiectau trafnidiaeth mawr.
“Fodd bynnag, amser a ddengys a fydd y newidiadau hyn yn arwain at ddull sy’n fwy cyson ac yn gwella perfformiad prosiectau.
“Ar adeg pan fo’r pwrs cyhoeddus dan straen, mae angen i ni fod yn hyderus ein bod yn cael y gwerth gorau posibl am arian allan o brosiectau o’r fath.”
Gellir darllen a lawrlwytho’r adroddiad llawn ar brosiectau trafnidiaeth mawr ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru: www.wao.gov.uk
Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac am ymchwiliadau blaenorol a phresennol, yma.