Datganiad gan y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar dlodi tanwydd yng Nghymru
.
Mewn ymateb i’n sesiwn dystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru gyda Golwg ar Ynni Cymru
a phump o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf, mae’r Pwyllgor Cynaliadwyedd wedi cytuno i gyhoeddi’r datganiad interim hwn:
‘Cafwyd tystiolaeth gan Golwg ar Ynni
a oedd yn awgrymu bod tua 22 y cant o gartrefi yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd ar hyn o bryd a bod 40 y cant o’r cartrefi sy’n defnyddio trydan fel eu prif ffynhonnell ynni yn dlawd o ran tanwydd. Clywodd y pwyllgor hefyd fod cwsmeriaid o Gymru o dan anfantais am eu bod yn talu hyd at 10 y cant yn fwy am eu trydan na’r cyfartaledd ym Mhrydain Fawr a’u bod yn llai tebygol o newid cyflenwr ynni a thrwy hynny’n colli allan ar y manteision a gynigir drwy wneud hyn.
Roedd yn destun pryder penodol i’r pwyllgor nad oedd yr holl gwmnïau ynni yn gallu rhoi manylion iddynt o ran y swm a gaiff ei wario ganddynt i helpu’u cwsmeriaid sy’n dioddef tlodi tanwydd neu’r rhaglenni a’r cynlluniau a ddarperir ganddynt. O’r holl gyflenwyr ynni, ymddengys mai Nwy Prydain sy’n cyfrannu’r ganran fwyaf o’u trosiant i dlodi tanwydd, sef 0.49 y cant. Mae Golwg ar Ynni
wedi cyfrifo, os bydd yr holl gyflenwyr eraill yn cyfrannu’r un cyfran o’u trosiant, byddai £72.3 miliwn arall yn cael ei wario ar dlodi tanwydd.
Er ein bod yn croesawu’r cyhoeddiad a oedd yn dilyn ein sesiwn dystiolaeth, sef bod y chwe phrif gwmni ynni’n bwriadu treblu’u gwariant blynyddol ar ‘gymorth cymdeithasol’ i £150 miliwn erbyn 2011, rydym yn poeni mai swm bach iawn fydd hwn o ystyried y posibilrwydd y bydd cwmnïau ynni’n parhau i gynyddu’u prisiau i symiau annerbyniol.
Roedd yn syndod darganfod bod y tariff cymdeithasol, sydd wedi’i anelu at y bobl hynny sy’n dioddef tlodi tanwydd, weithiau’n uwch na’r tariff isaf sydd ar gael gan yr un cwmni ynni. Byddem yn annog cwmnïau ynni i fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn fel mater o frys ac i wneud ymdrech i symleiddio’u tariff er mwyn helpu’u cwsmeriaid i ddeall eu biliau ac i newid eu cyflenwr ynni’n haws.
Rydym ni fel pwyllgor yn cydnabod rôl bwysig y cyfryngau o ran amlygu’r mater o dlodi tanwydd am ei fod yn effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru a byddem yn croesawu unrhyw ymgais i barhau i roi sylw i’r mater hwn.
Rydym yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy gynlluniau fel y Cynllun Effeithiolrwydd Egni Cartref ac rydym yn edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar ddyfodol y rhaglen hon pan fydd yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor fis nesaf. Mae’r pwyllgor hefyd yn bwriadu ymateb i ymchwiliad presennol Ofgem i farchnadoedd cyflenwi ynni ym Mhrydain drwy gyflwyno sylwadau pobl o Gymru’.