Mae Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AS, i fynediad at Therapi Triphlyg ar gyfer Ffibrosis Systig, a gyhoeddwyd ddoe, dydd Mercher 22 Gorffennaf.
Yn ôl Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd pobl gyda ffibrosis systig yng Nghymru yn gallu cael mynediad i’r feddyginiaeth therapi driphlyg newydd Kaftrio. Bydd hyn yn sicrhau gwell triniaeth gyda’r feddyginiaeth fwyaf addas fydd yn gwella iechyd a safon byw nifer fawr o gleifion ffibrosis systig.
“Rydym yn falch bod y Cystic Fibrosis Trust yn cydnabod gwaith hanfodol y Pwyllgor wrth drafod deiseb yn galw am fynediad i’r feddyginiaeth ffibrosis systig Orkambi, a ddaeth ar gael yng Nghymru fis Tachwedd 2019. Fe fu’r trafodaethau rhwng y GIG a Vertex Pharmaceuticals ynglŷn ag Orkambi yn sail i ddatblygiad pellach o ran y therapi driphlyg gyfunol.”
Cafodd deiseb ei Gyflwyno i’r Senedd yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru (bellach Senedd Cymru) i alw am ddatrysiad i drafodaethau parhaus rhwng GIG Cymru, Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Arbenigol Cymru a Vertex Pharmaceuticals ynghylch mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o'r brys eithaf. Casglodd y ddeiseb 5,717 o lofnodion ac fe gafodd ei ystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd.
Mae mwy o wybodaeth am ddeisebau’r Senedd ar gael ar y wefan.