Ar ôl i aelod o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ymddiswyddo, mae Comisiwn y Senedd yn gobeithio penodi rhywun i’r swydd wag ar y Bwrdd.
Ar ôl cwblhau'r broses recriwtio penodiadau cyhoeddus y llynedd, lle penodwyd Cadeirydd ac aelod newydd i'r Bwrdd cafodd yr ymgeiswyr eraill a oedd yn bodloni gofynion y rôl eu cadw ar restr wrth gefn.
Mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd wedi cadarnhau bwriad i benodi ymgeisydd o'r rhestr hon, ar yr amod bod yr ymgeiswyr yn dal i fod ar gael ac yn gymwys. Bydd y penodiad hwn yn ystyried y cyfuniad o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar y Bwrdd yn ei gyfanrwydd. Ar y sail hwn, y tro hwn cysylltir ag ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn sydd â phrofiad diweddar blaenorol mewn swydd etholedig, fel y nodir yn eu ffurflen gais.
Os na fydd unrhyw un o'r ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn ar gael, yn gymwys neu’n bodloni'r gofynion o ran sgiliau a gwybodaeth, cynhelir proses recriwtio newydd.
Ar ôl i ymgeisydd cymwys gael ei ddewis, bydd Comisiwn y Senedd yn cael gwybod am y penodiad.