Datganiad y Llywydd ar ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn Silk
1 Tachwedd 2013
“Croesawaf y cyhoeddiad a wnaed heddiw gan Lywodraeth y DU, a chroesawaf ei hymrwymiad i ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ceir cefnogaeth unfrydol ymhlith holl bleidiau’r Cynulliad o blaid datganoli pwerau ariannol, a hynny er mwyn ein galluogi i wella bywydau mewn cymunedau ledled Cymru.
“Bydd y Cynulliad yn fwy atebol i bobl Cymru, gan y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau ynghylch sut y bydd yr arian a fydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei godi, ac nid yn unig ynghylch sut y bydd yn cael ei wario. Bydd hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y broses o sicrhau bod y sefydliad yn parhau i aeddfedu fel deddfwrfa lawn.
“Edrychaf ymlaen at ystyried ymateb Llywodraeth y DU yn fanwl, a’r goblygiadau i weithdrefnau a phrosesau’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae’n glir i mi y bydd y datblygiad hwn yn golygu cyfrifoldebau ychwanegol i Aelodau.
“Rwyf eisoes wedi datgan, yn fy nghyflwyniad i Gomisiwn Silk, fy mod o’r farn bod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad sydd gennym o 60 i 80 er mwyn adlewyrchu’r modd y mae cyfrifoldebau’r Cynulliad wedi newid, a sut y mae ein llwyth gwaith wedi cynyddu, ers i’r Cynulliad gael rhagor o bwerau yn sgil y bleidlais gadarnhaol a gafwyd yn refferendwm 2011.
“Yn fy marn i, mae’r datganiad a gafwyd heddiw yn cadarnhau’r angen am Gynulliad sydd â chapasiti ehangach, ac am ragor o Aelodau i graffu’n gadarn ar waith Lywodraeth Cymru o ran y penderfyniadau pwysig ac anodd a gaiff eu gwneud mewn perthynas â threthu a benthyca yng Nghymru.”