Datganiad y Llywydd yn dilyn digwyddiadau heddiw yn San Steffan

Cyhoeddwyd 22/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​“Mae’r digwyddiadau yn San Steffan yn parhau ond maen nhw’n cael eu trin fel digwyddiad terfysgol difrifol. Rwyf wedi gohirio’r Cyfarfod Llawn a chaiff y busnes sy’n weddill heddiw ei aildrefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl i fusnes y Cynulliad yfory fynd rhagddo fel arfer. Mae ein gwasanaeth diogelwch a’r heddlu yn cydweithio’n agos. Mae’r heddlu wedi cynyddu presenoldeb swyddogion arfog o amgylch ystâd y Cynulliad ac ym Mae Caerdydd rhag ofn.
 
Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio arnynt gan ddigwyddiadau erchyll heddiw.”