Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sef y Ddeddf gyntaf o’r fath yn y byd, yn radical ac yn uchelgeisiol, ond ddegawd yn ddiweddarach mae'n methu â chyflawni ei huchelgeisiau, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd.
Canfu'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod y broses o weithredu’r Ddeddf wedi bod yn rhy araf a bod y darlun yn gymysg o ran y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.
Mae’r adroddiad, Addas at y Dyfodol?, yn rhybuddio bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Ddeddf yn parhau’n isel, a bod cyrff cyhoeddus yn dal i fethu â blaenoriaethu meddylfryd sy’n canolbwyntio ar y tymor hwy dros bwysau cyllidebol yn y tymor byr, gan nodi nad oes gan y Ddeddf y pŵer i ddwyn y cyrff cyhoeddus hynny i gyfrif.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddiwygio'r Ddeddf cyn etholiad y Senedd yn 2030.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Dim ond nifer fach o ddarnau o ddeddfwriaeth sydd wedi codi disgwyliadau mor eang eu cwmpas neu mor uchelgeisiol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn wirioneddol arloesol, dyma'r ymgais gyntaf unrhyw le yn y byd i osod datblygu cynaliadwy wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r uchelgais honno'n bwysicach nag erioed.
“Ond mae’r gweithredu wedi bod yn rhy araf. Mae yna bocedi o arfer da go iawn, ond mae’r cynnydd a wnaed yn parhau’n anghyson. Mae cyrff cyhoeddus yn dal i geisio atebion tymor byr, er mai holl ddiben y ddeddfwriaeth oedd torri'r cylch hwnnw. Yn fwyaf brys, mae’n rhaid i gyrff iechyd roi rôl ganolog a blaenllaw i fesurau ataliol yn eu gwaith.
“Rydym yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru a’r Senedd nesaf ymrwymo i gryfhau’r Ddeddf hon, gan roi dannedd go iawn iddi a sicrhau ei bod yn cyflawni’n wirioneddol er lles pobl Cymru.”
Mae’r pwyllgor wedi gwneud wyth o argymhellion. Mae'n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gynnal adolygiad o'r Ddeddf yn ystod blwyddyn gyntaf y Senedd nesaf, a rhoi trefn ar y dirwedd anniben o ran cyrff cyhoeddus cysylltiedig. Byddai’n rhaid i newidiadau deddfwriaethol, diwygiadau polisi a chanllawiau wedi'u diweddaru fod ar waith cyn yr etholiad yn 2030.