Deddf newydd i leihau nifer y marwolaethau oherwydd tân yn dod yn nes

Cyhoeddwyd 25/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Deddf newydd i leihau nifer y marwolaethau oherwydd tân yn dod yn nes

Mae deddfwriaeth newydd i Gymru a allai helpu i leihau nifer y marwolaethau oherwydd tân wedi symud cam yn nes.

Ann Jones oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i ennill balot i gynnig Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Gosododd ei gorchymyn—a fydd yn ei gwneud yn orfodol gosod system chwistrellu dwr ym mhob ty newydd yng Nghymru—yn Swyddfa Gyflwyno’r Cynulliad a galwodd am sefydlu pwyllgor i graffu ar y Gorchymyn.  Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yw’r ffordd newydd y gall y Cynulliad ennill hawliau deddfu ychwanegol.

Dywedodd Ann Jones, AC: “Roeddwn yn falch iawn mai fi oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf o’r meinciau cefn i gael cymeradwyaeth y Cynulliad mewn egwyddor ar gyfer Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, ac rwyf yn awr yn awyddus i symud ymlaen i’r cam nesaf, felly, cyflwynais y gorchymyn a gofyn i’r Llywydd sefydlu pwyllgor i graffu ar y cynigion.

“Gweithiais yn y gwasanaeth tân am 30 mlynedd ac rwyf felly yn ymwybodol iawn o effaith ddinistriol tanau mewn tai, ac yn argyhoeddedig y bydd y ddeddf hon yn arbed bywydau—lle cafodd systemau chwistrellu dwr eu gosod mewn cartrefi mewn gwledydd eraill, ni chollwyd yr un bywyd. Bydd fy nghynigion yn galluogi Cymru i arwain y ffordd ym maes diogelwch tân yn u  DU. Rwyf yn falch hefyd o gael cefnogaeth y gwasanaeth tân ac undeb y brigadau tân.”

Nodyn i olygyddion: Ceir mwy o wybodaeth am y Cynulliad a’i bwerau deddfu yn ein pecyn gwybodaeth i’r cyfryngau.