Deddfwriaeth a wnaed ganrif yn ôl yn rhwystro perchnogion rhandiroedd

Cyhoeddwyd 15/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Deddfwriaeth a wnaed ganrif yn ôl yn rhwystro perchnogion rhandiroedd

15 Gorffennaf 2010

Rhaid adolygu deddfwriaeth a wnaed ym 1908 os yw cynhyrchu bwyd gwyrdd yn mynd i ffynnu, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Cynaliadwyedd trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol o ran rhandiroedd er mwyn sicrhau ei bod yn briodol i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain ac, os oes angen, gwneud cais am y pwerau angenrheidiol o San Steffan i ddiwygio’r ddeddfwriaeth.

Er bod y ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i ddarparu rhandiroedd, mae’r adroddiad yn amlygu pryderon nad yw’r ddeddfwriaeth yn amlinellu amserlen i gynghorau ymateb i geisiadau, sy’n achosi oedi dianghenraid.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad oes cofnod manwl ar gael o’r cyflenwad a’r galw am randiroedd, ac nad yw rhestrau aros cynghorau’n adlewyrchu’r diddordeb yn foddhaol.

Mae diffyg cyllid i bobl sydd am ddatblygu rhagor o dir tyfu i’r gymuned ac anawsterau o ran argaeledd tir a chaniatâd cynllunio yn bryderon eraill a fynegir yn yr adroddiad.

Dywedodd Leanne Wood AC, un o Aelodau’r Pwyllgor:

“Neges allweddol yr ymchwiliad hwn yw y bydd angen cymorth mwy eglur a rhesymegol ar bobl wrth i nifer cynyddol ohonynt fabwysiadu agwedd ‘tyfu eich hun’ i gynhyrchu bwyd,”

“Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol am grwpiau’n dod ynghyd i greu llecynnau cymunedol, ac am bobl a oedd yn awyddus i fyw mewn ffordd mwy cynaliadwy, ond mater o bryder i ni oedd clywed am bobl yn cael anhawster yn dod o hyd i ddigon o le i dyfu eu cynnyrch eu hunain, ac am bobl yn gorfod brwydro i gael awdurdodau lleol i gyflawni’u dyletswyddau.

“Bydd adolygu’r ddeddfwriaeth yn hyrwyddo’r broses o gael rhandir, ond mae materion eraill sydd angen mynd i’r afael â hwy, gan gynnwys diffyg cofnodion o’r cyflenwad a’r galw ac anawsterau o ran argaeledd tir a chaniatâd cynllunio.”

“Fel Pwyllgor, gobeithiwn y bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu er mwyn annog cadw rhandiroedd fel modd cynaliadwy a buddiol o gynhyrchu bwyd.”

Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Amlygodd yr ymchwiliad pwysig hwn y rhwystrau sy’n atal unigolion a chymunedau rhag mwynhau’r buddiannau a ddaw o gadw rhandiroedd,”

“Fel Pwyllgor, gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn amlygu’r materion hyn ymhellach, ac yn symbylu newidiadau cadarnhaol.”