Defnyddiwch dechnoleg, i ddiogelu afonydd Cymru - meddai un o bwyllgorau’r Senedd

Cyhoeddwyd 09/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd, nid drwy bennu’r union ddyddiadau y caiff ffermwyr wasgaru slyri y mae diogelu ein dyfrffyrdd.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi annog Llywodraeth Cymru heddiw i roi blaenoriaeth i unrhyw ddulliau technolegol amgen yn hytrach na phennu cyfnodau caeedig ar gyfer gwasgaru slyri, neu ‘ffermio yn ôl calendr’.

Mae’r gwaith o wasgaru slyri wedi’i gyfyngu i rai dyddiau penodol yn ystod y flwyddyn o dan ddeddfwriaeth newydd a basiwyd gan Lywodraeth Cymru i reoli llygredd amaethyddol.

Mae un o bwyllgorau’r Senedd o’r farn bod y cyfyngiadau’n hen ffasiwn ac mae grwpiau amaethyddol yn honni y gallai datblygiadau technolegol fod yn fwy effeithlon, buddiol a chost-effeithiol.

'Mae angen ystyried y realiti'

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: “Mae'r rheoliadau presennol yn gyfystyr â 'ffermio yn ôl calendr', ac mae angen ystyried y realiti i ffermwyr Cymru.

“Mae’r tywydd yn dyngedfennol wrth wasgaru slyri, proses sy’n hanfodol bwysig i wella’r cnydau a gynhyrchir, a rhaid i ni, er mwyn y gymuned amaethyddol, wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. 

“Mae hyn yn gwbl amlwg. Ar adeg pan fo’n rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd a materion diogelwch bwyd, mae angen i ni helpu ffermwyr i ddiogelu eu bywoliaeth yn ogystal â diogelu safonau ansawdd aer a dŵr Cymru.”

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) bob pedair blynedd, ond mae’r Pwyllgor yn galw am newidiadau i wella’r rhain yn gynt o lawer.

Fis Gorffennaf diwethaf, pleidleisiodd yr Aelodau o’r Senedd yn unfrydol o blaid cynnig i un o bwyllgorau’r Senedd adolygu’r rheoliadau. Fodd bynnag, oherwydd her gyfreithiol i'r Rheoliadau, bu oedi cyn i’r Pwyllgor fedru bwrw ymlaen â’r gwaith. 

Mae’r adolygiad yn amlinellu deg o argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella’r rheoliadau. 

Disgwylir i Lywodraeth Cymru ymateb i’r casgliadau ddechrau mis Medi. 

 


Mwy am y stori hon

Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Rheoliadau Llygredd Amaethyddol