Welsh flag

Welsh flag

Degawd o doriadau: Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant ym meysydd diwylliant a chwaraeon

Cyhoeddwyd 09/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2025

Mae adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw gan un o bwyllgorau’r Senedd yn dangos bod Cymru, ar ôl degawd o doriadau, yn y trydydd safle o’r gwaelod ymhlith gwledydd Ewropeaidd o ran gwariant y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon ac yn ail o’r gwaelod o ran gwasanaethau diwylliannol.

Mae Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr yn manylu ar effaith ddifrifol degawd o doriadau cyllid ar y sectorau diwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor wedi cymryd tystiolaeth gan lawer o sefydliadau allweddol ledled Cymru, sydd wedi codi pryderon difrifol.

Mae’r adroddiad yn galw am weithredu a mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac yn tynnu sylw at angen dybryd am strategaeth.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Ers yn rhy hir, mae diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel pethau ‘neis i’w cael’, gan wynebu gostyngiadau di-baid mewn cyllid sydd wedi gadael y sectorau hyn yn fregus a heb ddigon o adnoddau.

“Mae’r toriadau diweddar yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25, sy’n cael eu gwaethygu gan chwyddiant a chostau cynyddol, wedi cael effaith ddofn. Rhaid inni fynd i’r afael â hyn er mwyn sicrhau bod gwariant y pen ar ddiwylliant a chwaraeon yn dod yn gymaradwy â chenhedloedd eraill.

“Mae diwylliant a chwaraeon yn edafedd hanfodol yn y brethyn sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw: maen nhw’n cyfoethogi’r profiad dynol, ac yn fwy na dim ond moethusion i’w mwynhau mewn cyfnodau o ddigonedd.

“Heb newidiadau sylweddol, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant ym yn y meysydd diwylliant a a chwaraeon, gan beryglu ein cymeriad cenedlaethol a llesiant ein cymunedau.”

Dywedodd Miranda Ballin o Plant y Cymoedd, elusen sy'n darparu cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd i bobl o bob oed yn Rhondda Cynon Taf:

“Mae Plant y Cymoedd yn gweithio ymhlith rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Ewrop, sydd wedi dioddef waethaf o dan bwysau llymder, yr argyfwng costau byw a Brexit cyn hynny. I lawer o’n pobl ifanc ac oedolion hŷn mae’r celfyddydau yn hanfodol yn eu bywyd.

“Mae gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn effeithio ar ein hartistiaid lleol, ein cymuned lawrydd ac yn bennaf oll y bobl sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau - mae bod yn rhan o’r celfyddydau yn rhoi llais creadigol i bobl, ar adeg pan mae gwir angen amdano, ni allwn fforddio colli hynny nawr.”

Fe wnaeth Lisa Davies, Prif Weithredwr Tanio, sefydliad sy’n darparu mynediad i ystod o weithgareddau ac ymyriadau creadigol i wahanol gymunedau, rannu ei phryderon:

“Mae gostyngiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau wedi effeithio ar bob rhan o’r hyn rydym yn ei wneud: mae wedi lleihau nifer y gweithgareddau y gallwn eu cynnig i bobl mewn cymunedau difreintiedig, ac wedi newid cynnwys y gweithgareddau y gallwn eu darparu. Mae hefyd wedi effeithio’n fawr ar ein staff, gan ein bod yn gallu cynnig llai o gyfleoedd gwaith llawrydd i’n rhwydwaith o artistiaid.”

Ychwanegodd Nia Wyn Evans o theatr gymunedol Arad Goch:

“Gyda chostau popeth fel cyflogau, trydan, costau teithio a chostau byw yn cynyddu mor gyflym, a’r arian sy’n dod i mewn yn aros yr un fath neu’n lleihau – mae’n amhosib cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae rhywbeth yn gorfod cyfaddawdu.

“Ein prif nod fel cwmni ydi darparu theatr i gynifer o blant a phobl ifanc ag sy’n bosib – ond mae’r niferoedd hyn yn mynd i leihau oherwydd hyd ein teithiau a’n gallu i fynd i wahanol leoliadau.”

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion allweddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu:

  1. Mwy o arian: Mwy o arian ar gyfer diwylliant a chwaraeon nes bod gwariant y pen yn gymaradwy â gwledydd tebyg.
  2. Gwariant ataliol: Cyflwyno categori o wariant ‘ataliol’ mewn cyllidebau yn y dyfodol i gydnabod gwerth diwylliant a chwaraeon o ran gwella llesiant corfforol a meddyliol a’u hariannu’n briodol.
  3. Cymorth strategol: Datblygu strategaeth draws-adrannol gydweithredol ar gyfer ariannu diwylliant a chwaraeon, gan sicrhau y caiff y sectorau hyn eu cydnabod fel rhai allweddol i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd diwylliant a chwaraeon o ran cyfoethogi bywydau, cefnogi cymunedau, a gwella llesiant corfforol a meddyliol. Mae’n galw am weithredu ar unwaith i atal dirywiad pellach yn y sectorau hanfodol hyn.

Nawr mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i argymhellion ac adroddiad y Pwyllgor.