Deiseb yn Galw am Fwy o Bwerau i’r Cynulliad i annog teithio egnïol, yn cael ei chyflwyno i’r Llywydd

Cyhoeddwyd 17/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deiseb yn Galw am Fwy o Bwerau i’r Cynulliad i annog teithio egnïol, yn cael ei chyflwyno i’r Llywydd

             
                

Derbyniodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a’r Aelod o’r Pwyllgor Deisebau Mike German AC ddeiseb oddi wrth Sustrans heddiw (dydd Mercher, Hydref 17eg). Mae Sustrans yn elusen trafnidiaeth cynaliadwy flaenllaw.

Mae’r ddeiseb yn galw am i’r Cynulliad gael pwerau ychwanegol i annog pobl i ymadael â’u ceir. Mae’r elusen wedi cael cefnogaeth i’w deiseb gan sefydliadau yn cynnwys BT, y Post Brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru), Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru ac Age Concern Cymru.

Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau yn dilyn cyflwyno pwerau newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’n galluogi aelodau’r cyhoedd i gyflwyno deisebau sy’n cynnwys deg neu fwy o enwau ar faterion o fewn meysydd cyfrifoldeb y Cynulliad.  Bydd y ddeiseb hon yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau yn fuan.                          

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn cyfarfod yfory (Dydd Iau, Hydref 18fed) i drafod deisebau a dderbyniwyd yn gynharach ar bynciau yn cynnwys y galw am ail-agor Gorsaf Reilffordd Carno a Chais cwmni ‘Redrow Homes’ i ollwng carthion i Gwrs Dwr Nant Cylla, Ystrad Mynach.