#DemDef – Swyddfa'r Llywydd yn croesawu News UK i'r Pierhead ar gyfer lansio ei academi newyddion

Cyhoeddwyd 28/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

#DemDef – Swyddfa'r Llywydd yn croesawu News UK i'r Pierhead ar gyfer lansio ei academi newyddion

28 Mawrth 2014

Ar 31 Mawrth bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn croesawu News UK a darpar newyddiadurwyr y dyfodol i adeilad y Pierhead ar gyfer lansio academi newyddion News UK.

Bwriad yr academi yw annog newyddiadurwyr a fydd gyda'r gorau yn y byd yn y dyfodol a chaiff ei lansio drwy gyfres o gynadleddau yn y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd.

Bydd y Llywydd yn agor y gynhadledd ac yn croesawu News UK a darpar newyddiadurwyr Cymru.

"Rwyf wedi bod yn rhedeg ymgyrch i amlygu'r angen am luosogrwydd o ran y sylw y mae'r cyfryngau yn ei roi i waith y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau fod y broses ddemocrataidd yn gweithio yng Nghymru," meddai y Fonesig Rosemary.

"Rhan o'r broses honno yw annog newyddiadurwyr y dyfodol a'u dysgu sut y mae adrodd ar waith corff deddfu y wlad yn ganolog i ddemocratiaeth iach.

"Dyna pam y mae'n bleser gen i groesawu News UK, a newyddiadurwyr posibl y dyfodol, i adeilad y Pierhead heddiw ar gyfer lansio'r academi newyddion hon.

"Rwy'n credu y gallai chwarae rôl bwysig wrth ymdrin â'r diffyg democrataidd yng Nghymru drwy roi gwybodaeth bwysig am y broses ddemocrataidd yng Nghymru i newyddiadurwyr y dyfodol."

Yn y gynhadledd, bydd pobl ifanc o wahanol rannau o Gymru yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau lle byddant yn trafod materion a fydd yn cynnwys:

  • Ymddieithrio ymysg yr ifanc a'r cyfryngau

  • Beth yw rôl golygydd?

  • Rôl gohebydd gwleidyddol; a

  • Sut i ddatblygu gyrfa mewn newyddiaduraeth.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn lle bydd yn trafod y berthynas rhwng gwleidyddion a'r cyfryngau.

Dywedodd Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu News UK: “Nod yr Academi Newyddion yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth o safon fyd-eng ac mae’n bleser gennyf ddod â’r dalent newyddiadurol wych hon yn ôl i fy nhref enedigol.”