Diffoddwyr tân wedi cael eu gadael i lawr gan arweinwyr – Pwyllgor y Senedd

Cyhoeddwyd 06/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae diffoddwyr tân wedi cael eu gadael i lawr gan y bobl sy’n gyfrifol am lywodraethu gwasanaethau tân ac achub, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dystiolaeth nad yw Awdurdodau Tân yn gallu gwneud eu gwaith yn iawn, a bod rhai aelodau heb y sgiliau sydd eu hangen i wneud eu swyddi.

Mae adroddiad Seinio'r Larwm, sy’n cael ei lansio heddiw, yn manylu ar bryderon ynghylch penodiad Stuart Millington yn Brif Swyddog Tân dros dro yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Roedd diffyg eglurder a naws amddiffynnol yr ymateb i’r pryderon hyn yn peri risg o atgyfnerthu’r canfyddiadau negyddol am rai uwch reolwyr, yn ôl aelodau’r Pwyllgor.

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae staff y gwasanaeth tân yng Nghymru yn cael eu gadael i lawr gan yr arweinwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu’r gwasanaethau tân ac achub ac mae angen newid brys i adfer ffydd fel bod pob aelod o staff yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle.  

“Cawsom ein siomi o glywed faint o bobl ar frig y system lywodraethu bresennol nad oedd i’w gweld yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r broblem.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau radical i gryfhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y strwythur llywodraethu – nid yw dim newid yn opsiwn.”

Gwendidau o ran Llywodraethu

Lansiodd y Pwyllgor yr ymchwiliad i lywodraethu gwasanaethau tân ac achub yn dilyn canfyddiadau brawychus yr Adolygiad Diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru dan arweiniad Fenella Morris CB. Wedi hynny, gorchmynnodd Llywodraeth Cymru adolygiadau annibynnol i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd a Chanolbarth a Gorllewin Cymru hefyd.

Cododd yr adolygiad diwylliant gwestiwn allweddol am rôl yr Awdurdodau Tân ac Achub. Dywedodd Cymdeithas y Swyddogion Tân wrth y Pwyllgor nad oedd gan aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru y sgiliau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r lefel o oruchwyliaeth, craffu a her angenrheidiol wrth lywodraethu, a bod llawer o aelodau’r Awdurdod yn gwneud ychydig iawn o gyfraniad, os o gwbl yn ystod cyfarfodydd a’u bod yn ddryslyd o ran cynnwys papurau.

Daethant i’r casgliad bod aelodau’r Awdurdod yn annhebygol o fod mewn sefyllfa i ddarparu’r lefel o oruchwyliaeth strategol effeithiol sydd ei hangen i gynorthwyo’r sefydliad i gyflawni’r newid diwylliannol angenrheidiol.

Dywed y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r ffordd y mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio, gan gynnwys lleihau eu maint cyffredinol, ac annog pobl sydd â gwybodaeth ac arbenigedd allanol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael eu cyfethol i bob Awdurdod.

Penodiad Stuart Millington

Clywodd yr aelodau bryderon am benodiad Comisiynwyr De Cymru o Stuart Millington yn Brif Swyddog Tân dros dro yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn yr adolygiad diwylliant, er bod camymddwyn honedig heb ei ddatrys yn ymwneud â bwlio.

Canfu’r Pwyllgor fod diffyg eglurder a naws amddiffynnol nifer o unigolion a ymatebodd i’r pryderon hyn yn peri gofid, ac roedd yn poeni y gallai hyn atgyfnerthu canfyddiadau negyddol presennol ymhlith staff a'r cyhoedd ynghylch ymrwymiad uwch reolwyr i wella diwylliant y gwasanaeth tân.

Nid yw negeseuon gan staff a anfonwyd at aelodau unigol y Pwyllgor yn rhinwedd eu rolau etholaethol wedi bod yn rhan o’r dystiolaeth ffurfiol a ystyriwyd gan yr ymchwiliad hwn – ond maent wedi atgyfnerthu pryderon yr Aelodau bod hyder staff yn y rheolwyr wedi’i danseilio.

Mae eu hadroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Tân i ddod ag unigolion ffres â sgiliau a phrofiadau o’r tu allan i’r sector yng Nghymru i’r rolau allweddol sy’n gyfrifol am ddiwylliant sefydliadol – gan ddechrau gyda’r broses recriwtio sydd ar ddod ar gyfer Prif Swyddog Tân newydd De Cymru.