Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wella ei gwaith i warchod bioamrywiaeth Cymru yn aruthrol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
‘Diffyg cynllun, gweithredu a buddsoddiad’
Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn bwrw golwg ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu byd natur a chanfuwyd enghreifftiau niferus o 'oedi, ymrwymiadau heb eu cyflawni, a therfynau amser a fethwyd'.
Dywed y Pwyllgor fod diffyg 'cynllun, gweithredu a buddsoddiad' yn addewid Llywodraeth Cymru i achub byd natur Cymru.
Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i wireddu ei haddewid drwy gyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar gyfer byd natur, gan nodi ei strategaeth i gau’r ‘bwlch ariannu byd natur’ enfawr a chyflymu’r gwaith cyflawni.
Ym mis Mehefin 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i osod targedau bioamrywiaeth sy’n gyfreithiol rwymol, ond cyfaddefodd i’r Pwyllgor yn ddiweddar ei bod bellach yn annhebygol y caiff y targedau hyn eu pennu am bedair blynedd arall. Yn ôl y Pwyllgor, byddai Llywodraeth Cymru yn gosod y targedau’n llawer cynt os oedd arbed byd natur yn flaenoriaeth wirioneddol iddi.
Canfu adroddiad y Pwyllgor hefyd nad yw dogfennau allweddol sydd i fod i lywio gwaith Llywodraeth Cymru ynghylch bioamrywiaeth, megis y Polisi Adnoddau Naturiol a’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur, wedi’u diweddaru ers blynyddoedd.
Nid yw’r addewidion a wnaed droeon i ddiweddaru'r dogfennau hyn wedi cael eu cyflawni ychwaith, a dywed y Pwyllgor fod hyn yn peri pryderon mawr.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, “Ar ôl degawdau o lygredd, trefoli ac effaith newid hinsawdd, mae byd natur Cymru mewn trafferth.
“Mae un o bob chwech o rywogaethau Cymru dan fygythiad difodiant ac mae ein bywyd gwyllt wedi lleihau 20% ar gyfartaledd yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae'n galonogol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hwn yn fater difrifol a'i bod wedi ymrwymo i atal a gwrthdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth.
“Ond y realiti anffodus yw bod cynlluniau, strategaethau a pholisïau niferus Llywodraeth Cymru wedi methu ag atal y dirywiad hwn. Ac mae'n amlwg mai'r rheswm am hyn yw’r diffyg buddsoddiad neu weithredu i wireddu'r addewidion hyn.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag achub byd natur Cymru, yna ni all anwybyddu’r adroddiad hwn, a rhaid iddi ddechrau gwneud yn ogystal â dweud cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”
Diffyg staff
Mae’r adroddiad heddiw yn dweud bod diffyg staff yn Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru fel ei gilydd.
Mae’r Pwyllgor yn canfod bod diffyg staff yn Llywodraeth Cymru yn golygu ei bod yn ei chael yn anodd cyflawni ei hymrwymiadau i fyd natur.
Nodwyd hefyd nad oes digon o adnoddau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y rheoleiddiwr amgylcheddol, sydd newydd amlinellu cynlluniau i dorri 265 o swyddi. Daw’r adroddiad i’r casgliad fod blynyddoedd o danfuddsoddi wedi gorymestyn CNC, sy’n amlwg wedi cyfyngu ar ei allu i arwain adferiad bioamrywiaeth yn effeithiol.
Mae’r Pwyllgor yn datgan, heb ragor o gyllid i CNC, y bydd nifer o fentrau amgylcheddol allweddol a sy’n cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yn methu.
Bil newydd
Yn ôl y Pwyllgor, nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru, sef Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oedd yn cael ei hystyried yn arloesol ar y pryd, yn cyflawni dros y byd natur fel y bwriadwyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddf newydd i’r Senedd cyn yr haf i wella bioamrywiaeth.
Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r gyfraith newydd hon i unioni ffaeleddau’r gyfraith bresennol.
Dylai gynnwys targed i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a chyflawni adferiad erbyn 2050. Byddai hyn alinio Cymru â’r cytundeb rhyngwladol i wella bioamrywiaeth a lofnodwyd gan y 196 o wledydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod COP15 ym mis Rhagfyr 2022.