Mae ymchwiliad Pwyllgor y Senedd i ymatebion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i stormydd y gaeaf wedi datgelu bylchau difrifol mewn cymorth ariannol brys a hygyrchedd yswiriant i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, yn cynnwys tystiolaeth gan drigolion, awdurdodau lleol, a sefydliadau'r trydydd sector, sy'n rhoi darlun sobr o galedi dro ar ôl tro ac anghenion heb eu diwallu ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
“Cic gwirioneddol yn y dannedd”
Yn dilyn dinistr stormydd Bert a Darragh ddiwedd 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a rhai awdurdodau lleol grantiau brys o £500 a £1,000 i gartrefi yr effeithiwyd arnynt, gyda chymorth ychwanegol i fusnesau.
Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith dro ar ôl tro fod y taliadau hyn ymhell o fod yn ddigon i dalu cost wirioneddol difrod y llifogydd a'r aflonyddwch a wynebodd teuluoedd a busnesau.
Disgrifiodd Robbie Laing, perchennog siop ddodrefn yn Llanfair-ym-Muallt, golled amcangyfrifedig o £15,000 mewn stoc, enillion a chostau glanhau:
"Nid y llifogydd go iawn sy’n peri’r annifyrrwch mwyaf i fi - ond yr wythnosau a’r misoedd ar ôl yn ceisio rhoi’r siop yn ôl at ei gilydd. Dyna’r effaith fwyaf - gorfod cau i lanhau.
“Pan oedd llifogydd yn 2020, gwnaeth y cyngor drefniant i fusnesau fynd i ganolfannau ailgylchu am ddim, ond y llynedd doedden nhw ddim yn poeni felly roedd yn rhaid i mi dalu arian ychwanegol o fy mhoced fy hun i gael gwared ar filoedd o bunnoedd o stoc a ddifethwyd - cic gwirioneddol yn y dannedd pan eich bod yn ceisio cael yn ôl ar eich traed.
"Efallai na fydd y pethau hyn yn cael effaith mor sylweddol ar gorfforaethau mawr sy'n gallu anfon timau glanhau proffesiynol, ond i fusnesau bach sy'n gorfod gwneud popeth eu hunain, mae'r cyfan yn adio i fyny.
"Fe wnes i geisio chwilio am grantiau neu unrhyw fathau eraill o gymorth oedd ar gael i mi wedyn, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddim byd o gwbl. Dydw i dal ddim yn gwybod a oedd unrhyw beth ar gael, ond os oedd, ni chafodd lawer o gyhoeddusrwydd.”
Canfu tystiolaeth a gasglwyd gan y Groes Goch Brydeinig mai dim ond 5% o'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ledled y DU a gafodd gymorth ariannol gan eu cyngor lleol, a dim ond 24% oedd yn teimlo bod y cymorth yn ddigonol. Yn nodedig, ni chafodd 21% a nododd fod angen cymorth ariannol arnynt ddim byd o gwbl.
Mae'r Pwyllgor yn argymell adolygiad trylwyr o'r cyllid brys, gan annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cymorth yn adlewyrchu costau go iawn ac yn darparu ar gyfer gwydnwch hirdymor, yn enwedig i'r rhai sydd wedi cael eu taro dro ar ôl tro gan drychinebau o'r fath.
Yswiriant cymhleth ac anhygyrch
Roedd yswiriant yn faes arall a oedd yn achosi pryder i'r Pwyllgor. Er bod eiddo sydd mewn perygl a adeiladwyd cyn 2009 fel arfer yn gymwys ar gyfer yswiriant llifogydd o dan gynllun Flood Re Llywodraeth y DU, roedd llawer o drigolion a busnesau wedi ei chael yn anodd llywio'r system a chael gafael ar yswiriant fforddiadwy.
Dywedodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol wrth y Pwyllgor fod angen cyfathrebu cliriach a mwy hygyrch gan yswirwyr a chyrff llywodraeth er mwyn i drigolion ddeall eu hawliau'n well.
I'r rhai heb yswiriant digonol, mae'r beichiau ariannol yn dilyn llifogydd mynych yn llethol. Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chwmnïau yswiriant i wneud mwy i symleiddio mynediad at yswiriant ac mae'n galw ar awdurdodau lleol i gryfhau eu cyngor i gymunedau yr effeithir arnynt.
Roedd Robbie Laing hefyd wedi’i chael yn rhwystredig cael gafael ar yswiriant ar gyfer ei fusnes. Dywedodd, "Cefais ddyfynbris ar gyfer yswiriant a oedd yn cynnwys tâl-dros-ben o £10,000 y byddai'n rhaid i mi ei dalu i wneud hawliad. Gan ein bod yn fusnes bach gydag asedau nad ydynt ymhell o’r swm hwnnw, a chan wybod y byddai'r cwmni yswiriant yn herio pob ceiniog o hawliad, nid oedd yn gwneud synnwyr yn economaidd i gytuno iddo.”
Diffygion seilwaith
Clywodd y Pwyllgor fod awdurdodau lleol wedi ysgwyddo costau uchel iawn wrth atgyweirio ac uwchraddio seilwaith yn sgil y stormydd diweddar.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar ei ben ei hun wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn gwelliannau i leihau'r perygl o lifogydd ers Storm Dennis yn 2020.
Er gwaethaf hyn, codwyd pryder arbennig ynglŷn â chyflwr a chynnal a chadw cwlfertau a systemau draenio eraill. Clywodd y Pwyllgor fod llawer o gwlfertau – sef sianeli ar gyfer dŵr sy'n croesi o dan ffyrdd a rheilffyrdd - mewn cyflwr gwael, yn anodd eu cyrraedd, ac nad ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer y lefelau dwysedd glaw enfawr a welir yn awr oherwydd newid hinsawdd.
Mae awdurdodau lleol yn cael eu rhwystro gan gyllidebau cyfyngedig a threfniadau perchnogaeth cymhleth - mae llawer o gwlfertau'n croesi tir cyhoeddus a phreifat, gyda chyfrifoldebau aneglur o ran cynnal a chadw.
Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i egluro a chyhoeddi'r cyfrifoldebau hyn, ac i gefnogi dull cenedlaethol, cydlynol o reoli cwlfertau, gan sicrhau y gall seilwaith wrthsefyll stormydd yn y dyfodol.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:
“Dangosodd effaith stormydd y gaeaf diwethaf y realiti nad yw’r cymorth argyfwng, yr yswiriant na’r seilwaith presennol yn cyfateb i raddfa’r angen yng nghymunedau Cymru.
“Mae’r taliadau brys wedi bod yn annigonol o lawer, gyda rhai trigolion yn colli degau o filoedd o bunnoedd, a llawer yn cael fawr ddim cymorth. Mae systemau yswiriant yn parhau i fod yn gymhleth ac yn anhygyrch, gan adael teuluoedd a busnesau i ysgwyddo beichiau ariannol enfawr - weithiau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol yn gwario symiau enfawr ar atgyweiriadau, ond mae cwlfertau a systemau draenio hanfodol yn dal i gael eu cynnal a’u cadw’n wael, wedi’u llesteirio gan gyfrifoldebau aneglur. Mae hyn yn achosi mwy o ddifrod, gan arwain at bobl nid yn unig yn wynebu colledion corfforol, ond hefyd effeithiau iechyd meddwl dwfn wrth iddynt ailadeiladu, dro ar ôl tro.
“Wrth i newid hinsawdd ysgogi tywydd fwyfwy eithafol, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithredu ein hargymhellion heb oedi: ailwampio cyllid brys, egluro mynediad at yswiriant, gwella cymorth iechyd meddwl, a chreu dull cydgysylltiedig o ran seilwaith gwydn.
“Bob dydd nad yw’r diwygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, rydym mewn perygl o amlygu mwy o gymunedau i galedi a thanseilio gwydnwch Cymru i stormydd sydd eto i ddod.”