Digwyddiad addysgol yn y Cynulliad Cenedlaethol i annog pobl ifanc i bleidleisio

Cyhoeddwyd 05/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Digwyddiad addysgol yn y Cynulliad Cenedlaethol i annog pobl ifanc i bleidleisio

5 Mai 2010

Cynhelir digwyddiad i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn siambr drafod ieuenctid Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (Mai 5).

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd â’r Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd - Cymru (CEWC Cymru) – sy’n helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau i’w helpu i gyfrannu at ddyfodol Cymru a’r byd.

Bydd 60 o ddisgyblion 15-18 oed o 12 o ysgolion yn trafod pynciau llosg sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol; gan gynnwys Rhaglen Cymru o blaid Affrica, datblygu cynaliadwy a chamddefnyddio sylweddau mewn sefydliadau addysg uwch a phellach.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, mae’r Cynulliad wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n llawn ac yn deg.

“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn democratiaeth, p’un ai drwy gymryd rhan mewn digwyddiad fel hwn sy’n cael ei gynnal heddiw, drwy gymryd diddordeb yng ngwaith eu cyngor lleol neu drwy ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad ynglyn â materion sy’n bwysig iddynt.

“Heddiw, diwrnod cyn etholiad cyffredinol y DU, efallai ei bod yn arbennig o amlwg mai llais yr etholwyr sy’n cyfrif. Gobeithio y bydd y digwyddiad heddiw’n ysbrydoli’n pobl ifanc i ymddiddori yn nhrafodaethau a phenderfyniadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru”.