Digwyddiad i annog gweithredu a chydweithredu cymunedol yn cael ei gynnal yn y Pierhead
23 Mehefin 2011
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal lansiad adroddiad blynyddol Cymdeithas Hansard ar ymgysylltu gwleidyddol ddydd Iau (23 Mehefin).
Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad yn dangos bod cnewyllyn o’r hyn y mae’n ei alw’n ‘bobl leol parod’ yn gyffredin yng Nghymru, sef pobl sy’n cymryd rhan mewn materion cymunedol yn eu hardal leol.
Mae Cymdeithas Hansard yn honni bod Cymru mewn sefyllfa dda i gynyddu ymgysylltiad dinesig o’i chymharu a’r Alban a rhanbarthau Lloegr.
Ond dywed bod angen i elusennau, grwpiau dinesig a gwleidyddion feithrin y gymuned hon sy’n weithgar yn gymdeithasol fel y bydd yn cymryd mwy o ran yn y dyfodol.
Cyflwynir yr adroddiad yn ffurfiol yn ystod digwyddiad sy’n edrych ar ymgysylltiad gwleidyddol a dinesig yng Nghymru, a gynhelir yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae canfyddiadau Cymdeithas Hansard yn hynod ddefnyddiol wrth i ni ddechrau’r gwaith o roi’r pwer i bobl Cymru gymryd rhan yn nemocratiaeth Cymru.
“Rwyf am i’r Pedwerydd Cynulliad ryngweithio’n uniongyrchol a chymunedau ledled y wlad. Ni fydd hyn wedi’i chyfyngu i gymunedau daearyddol, ond yn hytrach yn cynnwys cymunedau diwylliannol, cymunedau o ddiddordeb a chymunedau demograffig. Ni ddylai unrhyw un deimlo nad oes llais ganddynt yng Nghymru.
“Rwyf am i bobl wybod fy mod i a fy nghyd-Aelodau yma i gynrychioli eu buddiannau ac i roi cyfle iddynt leisio barn am faterion sydd o bwys iddynt hwy, eu teulu, ffrindiau, stryd neu gymuned.”
Dywedodd Dr Ruth Fox, un o awduron yr adroddiad: “Mae gweithgaredd a chydweithredu cymunedol wedi bod yn rhan o hanes cymdeithasol a diwylliannol y wlad ers amser ac mae gan Gymru sector gwirfoddol cryf.
“Golyga hyn fod Cymru mewn sefyllfa well na’r Alban a’r rhan fwyaf o Loegr i gynyddu lefelau ymgysylltiad dinesig yn y dyfodol.”
Bydd y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad yn cynnwys:
John Osmond, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
Dr Ruth Fox a Matt Norris – awduron yr adroddiad
Graham Benfield, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru
Jenny Rathbone AC, Llafur Cymru
Mark Isherwood AC, Ceidwadwyr Cymreig