Digwyddiad unigryw yn y Cynulliad Cenedlaethol i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac ymgyrchoedd gan fenywod

Cyhoeddwyd 08/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cydweithio â Phrifysgol De Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru i gynnal rhaglen o drafodaethau diddorol a pherfformiad cerddorol unigryw er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.

Yn ystod y dydd, bydd adeilad y Pierhead yn cynnal cynhadledd gan Brifysgol De Cymru, o dan y teitl: Merched a Gweithredu yng Nghymru: Ddoe a Heddiw. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd gan fenywod drwy gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau bwrdd crwn.

Dros ginio, bydd yr hanesydd yr Athro Angela John yn lansio ei llyfr newydd, 'Rocking the Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990'. Yna, cynhelir digwyddiad i nodi gwaith Girlguiding Cymru o dan arweiniad Tori James, sy'n anturiaethwr o Gymru ac yn llysgennad i Girlguiding UK.

"Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Phrifysgol De Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ysbrydoledig yn y Cynulliad Cenedlaethol i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni," meddai Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Yn ogystal, yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y mudiad pleidlais, mae'n ein hatgoffa o'r effaith bwerus y gall menywod ei chael ar y byd o'n hamgylch."

Yn ystod y noson, bydd y Senedd yn cynnal degfed Darlith Goffa flynyddol Ursula Masson mewn partneriaeth â'r Ganolfan Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol De Cymru ac Archif Menywod Cymru/Women's Archive of Wales.

Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi gan Dr Ryland Wallace, awdur 'The Women's Suffrage Movement in Wales 1866–1928.'

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: "Wrth inni ddathlu'r broses o dorri nenfydau gwydr yn ystod y digwyddiadau hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i ddysgu gwersi ein rhagflaenwyr yn yr ymgyrchoedd hyn, ac yn cynnal eu hymrwymiad i ddileu'r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu yn y gweithle ac yn y gymdeithas."

Cyn y ddarlith, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio rhagolwg dethol o'i gynhyrchiad newydd, 'Rhondda Rips it Up!', sy'n nodi bywyd y Fonesig Rhondda, Margaret Haig Thomas, sef swffragét enwocaf Cymru.

Bydd y perfformiad hwn yn cael ei roi gan Lesley Garrett CBE, Madeleine Shaw a Nicola Rose. Bydd Corws Ysgolion Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn perfformio, ynghyd â phlant o Ysgol Gynradd St Mellons ac Ysgol Gynradd Willowbrooks. Bydd 'Rhondda Rips it Up!' yn cael ei berfformio am y tro cyntaf ar 7 Mehefin yng nghanolfan y Riverfront yng Nghasnewydd.

Meddai Lesley Garrett:

"Mae 'Rhondda Rips It Up!' yn ddathliad gwych o fenyw arbennig. Roedd hi'n arloesol: fersiwn Cymru o Emmeline Pankhurst. Dylai holl fenywod Prydain fod yn ddiolchgar iddi.

"Mae'n anrhydedd bod yn rhan o waith sy'n dathlu menywod pwerus a'u hymgais ysbrydoledig am ryddid a pharch."

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar dudalen Facebook y Senedd.

I nodi blwyddyn canmlwyddiant y mudiad pleidleisio, bydd y Senedd hefyd yn cynnal arddangosfa a fydd yn archwilio'r ymgyrchoedd amrywiol sydd wedi'u cynnal er mwyn sicrhau'r bleidlais i fenywod. Canolbwynt yr arddangosfa fydd portread o ail Is-iarlles y Rhondda (1883-1958), sef Margaret Haig Thomas, neu Margaret Mackworth. Bydd y portread ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru.