Digwyddiad yn y Senedd i roi croeso haeddiannol i arwyr Cymreig Tîm Olympaidd Prydain

Cyhoeddwyd 13/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Digwyddiad yn y Senedd i roi croeso haeddiannol i arwyr Cymreig Tîm Olympaidd Prydain

13 Awst 2012

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal seremoni i groesawu arwyr Cymreig Tîm Olympaidd Prydain yng ngemau Llundain 2012. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn trefnu digwyddiad ar y cyd ar 14 Medi i ddathlu llwyddiannau athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae llygaid y byd wedi bod ar y DU yn ystod y pythefnos diwethaf ac mae Cymru wedi chwarae rhan ganolog wrth gynnal y wledd o chwaraeon a diwylliant y gallwn i gyd fod yn falch ohoni.

“Rydym wedi cynnal digwyddiadau'r gemau Olympaidd yn llwyddiannus yn ogystal â darparu cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf i athletwyr o bob rhan o'r byd.

“Ond athletwyr Cymru sydd wedi rhoi Cymru ar y map gyda'u perfformiadau ymroddedig a gwrol yn yr holl ganolfannau Olympaidd.

“Mae rhai wedi ennill medalau, ac rydym yn falch iawn ohonynt, ond mae'r holl athletwyr o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn arwyr ac yn esiampl i bob un ohonom.

“Felly, ar ran Aelodau'r Cynulliad a'r staff, edrychaf ymlaen at groesawu gartref, fel arwyr, ein holl dîm Olympaidd a Pharalympaidd i'r Senedd ar 14 Medi.”  

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Gall pawb yng Nghymru fod yn wirioneddol falch o’r hyn y mae ein hathletwyr wedi ei gyflawni fel rhan o Dîm Olympaidd Prydain. Mae eu penderfyniad a’u hegni yn wir wedi ysbrydoli pawb, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr i gyfanswm y medalau y mae Prydain wedi eu hennill.

“Gall y Deyrnas Unedig ei llongyfarch ei hun am ei llwyddiant yn y Gemau Olympaidd hyn, o weledigaeth greadigol gampus Danny Boyle yn y seremoni agoriadol i’r campau gwych eu hunain; dyma’r Gemau gorau erioed.

“Mae Cymru wedi chwarae ei rhan, o leoli gwersylloedd hyfforddi nifer o wledydd cyn y Gemau, i groesawu’r byd i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer yr 11 o gemau pêl-droed Olympaidd. Mae cyswllt Cymreig cryf gyda thîm beicio Prydain sydd gyda’r gorau yn y byd, a bu’n hyfforddi rhywfaint cyn y Gemau yn y Felodrom yng Nghasnewydd.

“Dyna pam rydym yn trefnu digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener, 14 Medi i groesawu’r arwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Byddwn yn rhyddhau rhagor o fanylion am y digwyddiad yn nes at yr amser, ond rwy’n galw ar bawb sy’n gallu dod i roi croeso adref haeddiannol iddynt.”