Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru heddiw i gynnal adolygiad brys o'r drefn o ran cyllido ysgolion.
Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon gan benaethiaid, llywodraeth leol, undebau athrawon, rhieni a phobl ifanc ledled Cymru am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ganlyniad i'r ffordd y caiff adnoddau addysg eu dyrannu.
Yn dilyn ei ymchwiliad i Gyllido Ysgolion, mae'r pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar frys er mwyn canfod cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu plentyn. Mae'r Pwyllgor wedi galw am gynnal adolygiad a fydd â nod tebyg i adolygiad Nuffield ar gyfer GIG Cymru.
Er mwyn deall maint y problemau a wynebir, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi amcangyfrif o'r bwlch cyllido rhwng y swm sy'n cael ei wario ar ysgolion ar hyn o bryd a'r swm y mae ei angen er mwyn cyflawni popeth sy'n ofynnol.
Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar y ffordd y mae'r arian yn cyrraedd y rheng flaen a sut y caiff ei ddefnyddio. Mae'n cydnabod bod hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys sut y caiff adnoddau ar gyfer llywodraeth leol eu rhannu, p'un a yw awdurdodau lleol yn blaenoriaethu ysgolion wrth fynd drwy'r broses i osod eu cyllidebau eu hunain, i ba raddau y maen nhw'n dirprwyo cyllid i ysgolion eu hunain a sut maen nhw'n dosbarthu'r cyllid hwnnw rhwng eu hysgolion.
Yn ogystal ag edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau ysgolion, clywodd yr ymchwiliad hefyd fod gan dros 500 o ysgolion gronfeydd wrth gefn sylweddol, sy'n uwch na'r trothwy cyfreithiol lle y caiff awdurdodau lleol ymyrryd. Mae'r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ar sut y mae'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol yn ymchwilio i hyn a pha gamau y maen nhw'n eu cymryd.
Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
"Clywsom ni lawer iawn o dystiolaeth yn ystod ein hymchwiliad – does dim digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru a does dim digon ohono'n cyrraedd yr ysgolion.
"Mae'r system ar gyfer ariannu ysgolion yn hynod gymhleth, mae sawl lefel iddi ac mae'n dibynnu ar sawl ffactor. Er y byddai wedi bod yn hawdd i ni fel Pwyllgor argymell yn syml fod angen mwy o gyllid ar addysg ac ysgolion, rydym ni'n credu'n gryf na fyddai hynny'n unig yn datrys y broblem. Rhaid defnyddio'r arian yn effeithiol hefyd.
"Ynghyd â'n pryderon am lefel y cyllid a chymhlethdod y system, mae disgwyl i ysgolion hefyd gyflwyno nifer gynyddol o newidiadau, fel y cwricwlwm newydd, y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (anghenion addysgol arbennig) newydd a'r dull gweithredu ysgol gyfan ar iechyd emosiynol a meddyliol. Gyda'r pwysau cynyddol, rydym ni'n pryderu y gallai ysgolion wynebu mwy a mwy o heriau.
"Mae mynediad at addysg o safon uchel yn hawl sylfaenol i'n holl blant a phobl ifanc. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, ar eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych chi'n dysgu ynddi. Addysg dda yw un o'r sylfeini pwysicaf y gall plentyn ei gael."
Ychwanegodd John Kendall, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga:
"Mae'n amlwg bod cyllid ysgolion wedi bod yn fater o bryder sylweddol ers peth amser. Roeddwn i'n croesawu'r ymchwiliad ac rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad heddiw; roeddem yn hapus i'r pwyllgor ymweld â'n hysgol yn gynharach eleni i gymryd rhan mewn rhai trafodaethau defnyddiol a didwyll iawn. Mae nifer yr argymhellion yn adlewyrchu'r angen am weithredu, ac mae'r cyntaf o'r rhain yn galw am adolygiad brys i faint o arian sydd ei angen i ariannu ein hysgolion, yn enwedig o ystyried lefel y diwygio addysgol sy'n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Byddwn yn annog holl arweinwyr a llywodraethwyr yr ysgol i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed fel rhan o'r broses hon."