Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i wella cyngor gyrfaoedd a chyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc yng Nghymru.
Yn ei adroddiad eang ei gwmpas ar lwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16, canfu'r Pwyllgor nad yw llawer o ddysgwyr yn cael cyngor diduedd o ansawdd uchel am eu hopsiynau ar ôl gadael yr ysgol. Tynnodd sylw hefyd at ostyngiad sydyn mewn cyfleoedd profiad gwaith ers 2015.
O’r bobl ifanc a holwyd, dim ond 24% oedd â mynediad at brofiad gwaith, er gwaethaf ei werth profedig o ran helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i'r rhwystrau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu o ran cynnig lleoliadau, ac ystyried gwasanaeth lleoli canolog i sicrhau mynediad cyfartal.
Mae'r Pwyllgor yn rhybuddio y gallai pwysau cyllid mewn ysgolion sydd â chweched dosbarth ddylanwadu ar y cyngor gyrfaoedd a roddir, gyda disgyblion yn cael eu cyfeirio tuag at gymwysterau Safon Uwch er mwyn diogelu cyllidebau. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r system ariannu ôl-16 a dileu’r pethau sy’n rhwystro cydweithio rhwng ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant, fel y bydd dysgwyr yn cael cyngor sy’n seiliedig ar eu hanghenion - yn hytrach na buddiannau sefydliadol.
Dywedodd Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i gloriannu ei holl opsiynau, boed hynny’n gymwysterau Safon Uwch neu’n hyfforddiant galwedigaethol megis prentisiaethau. Rhaid wrth ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr, a rhaid chwalu'r syniad hen ffasiwn bod llwybrau academaidd yn well rywsut. Dylai cyngor gyrfaoedd fod yn ddiduedd ac yn gyson, a dylai ddechrau'n gynnar. Ar ben hynny, ni ddylai profiad gwaith ddibynnu ar bwy mae eich rhieni'n eu hadnabod - dylai fod yn hawl, nid yn fraint.”
Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, dylai’r Hawl i Ddysgu 14 i 16 – cynnig cwricwlwm ysgol ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 a ddylai gynnwys cynllunio ôl-16 – gael ei hehangu i sicrhau mynediad at gyngor gyrfaoedd, profiad gwaith, ac ymgysylltu â cholegau, prifysgolion, a darparwyr hyfforddiant. Nod hyn yw sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cloriannu pob opsiwn ôl-16 yn deg a gwneud dewisiadau gwybodus.
Mae'r adroddiad yn galw am barch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd, ac mae’n argymell strategaeth genedlaethol a fyddai’n galluogi dysgwyr i ddilyn llwybrau hyblyg sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, a hynny heb stigma nac anfantais.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am y canlynol:
- Ehangu'r rhaglen Prentisiaethau Iau ledled Cymru
- Adolygiad o gyllid ôl-16 i ddileu’r gogwydd mewn canllawiau i ddysgwyr
- Parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd
- Mwy o gydweithio rhwng ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant
Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ymateb i gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor i wella'r cynnig ôl-16 i ddysgwyr