Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad yn mynd i Ddulyn mewn ymgais i fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc

Cyhoeddwyd 27/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad yn mynd i Ddulyn mewn ymgais i fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc

27 Mawrth 2014

Bydd grwp o Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd i Gyfarfod Llawn Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA) yn Nulyn rhwng 30 Mawrth a 1 Ebrill.

Hwn fydd Cyfarfod Llawn rhif 48 BIPA, sy'n dwyn ynghyd gwleidyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, deddfwrfeydd Guernsey a Jersey, Senedd Iwerddon a Senedd San Steffan.

Nod y sesiwn yw trafod materion sydd o ddiddordeb i bawb, gyda thema'r Cynulliad hwn yn canolbwyntio ar y ffordd orau o roi'r sgiliau i'n pobl ifanc ar gyfer swyddi'r dyfodol.

Fel rhan o'r drafodaeth, bydd Aelodau'r Cynulliad am sicrhau y bydd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw brosiectau lle y bydd Iwerddon a'r DU yn cydweithredu i fynd i'r afael â'r mater.

Dywedodd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, a fydd yn arwain y ddirprwyaeth: "Realiti cas y dirywiad economaidd yr ydym wedi'i wynebu ers 2008 yw ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl ifanc.

"Mae pobl ifanc ledled y DU yn wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i waith ac nid yw Cymru wedi cael ei diogelu rhag y duedd hon.

"Mae BIPA yn bwysig iawn o ran cydberthnasau rhyng-seneddol. Mae'n le gwych i rannu syniadau a chydweithio mewn ffyrdd a allai fynd i'r afael â materion fel diweithdra ymysg pobl ifanc.

"Felly mae'n gwneud synnwyr i mi a'm cyd-Aelodau fynd i'r sesiynau hyn er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir."

Bydd William Powell AC, Darren Millar AC, Lindsay Whittle AC a Joyce Watson AC yn mynd i Ddulyn gyda Mr Melding.