Diwrnod hanesyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo basio ei Fil cyntaf

Cyhoeddwyd 03/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Diwrnod hanesyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo basio ei Fil cyntaf

Mae Bil cyntaf erioed Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei basio gan Aelodau’r Cynulliad.

Ar ôl y bleidlais gadarnhaol yn refferendwm 2011 i roi rhagor o bwerau deddfu i’r Cynulliad, gall bellach basio deddfau sylfaenol a fydd yn effeithio ar Gymru yn unig.

Mewn dadl hanesyddol heddiw, trafododd yr Aelodau fanylion Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) fel rhan o gyfnodau 3 a 4 o broses ddeddfu’r Cynulliad, cyn pleidleisio arno.

Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’r nod yw symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau awdurdodau lleol ac mae’n cyflwyno gweithdrefn arall i awdurdodau lleol ei dilyn wrth wneud nifer o is-ddeddfau.

Ar ôl cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol maes o law. Wedyn, daw’r Bil yn ‘Ddeddf Cynulliad’.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae hwn yn gam arwyddocaol arall yn hanes proses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Dyma’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth i ddod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ers iddo gael pwerau deddfu llawn o ganlyniad i’r bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm y llynedd.

“Hwn hefyd oedd y Bil cyntaf i gael ei graffu o dan y strwythur pwyllgorau newydd a gyflwynwyd ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad.”

Rhagor o wybodaeth am Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol.

Canllaw i broses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dilynwch y Cynulliad..

Facebook Twitter Flickr YouTube Vimeo