Diwrnod prysur o groesawu ymwelwyr i’r Senedd

Cyhoeddwyd 01/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Diwrnod prysur o groesawu ymwelwyr i’r Senedd

1 Hydref 2010

Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu dau ymwelydd pwysig ddoe.

Cyfarfu Nick Clegg AS, y Dirprwy Brif Weinidog â’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, yn y bore a chafodd ei dywys ar daith o’r Senedd a’r Siambr.

Yna, cafodd Mr Clegg gwrdd â Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn ogystal â Nick Bourne AC, arweinydd Plaid Geidwadol Cymru a Kirsty Williams AC, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Yn ddiweddarach, bu José Manuel Barroso, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mewn digwyddiad gyda’r nos yn y Senedd, lle y gwelodd arddangosfa o brosiectau Cronfeydd Strwythurol a gyflwynwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr Arlywydd Barosso hefyd ei dywys ar daith o’r Senedd gan Lywydd y Cynulliad, cyn mynd ymlaen i Ganolfan y Mileniwm i gwrdd ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop.

José Manuel Barroso, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mewn digwyddiad gyda’r nos yn y Senedd