Diwrnodau Drysau Agored 2012
Fis Medi eleni, bydd Diwrnodau Drysau Agored yn dychwelyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn cynnig teithiau tywysedig o amgylch y Pierhead, Tŷ Hywel a’r Senedd ar 8 a 9 Medi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â’r llinell archebu ar 0845 010 5500. Byddwch yn gyflym, oherwydd dim ond 15 lle sydd ar bob taith.