Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn dod ag wythnos yn llawn o'i weithgareddau rheolaidd, arddangosfeydd arbennig a digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd i Aberystwyth ym mis Rhagfyr fel rhan o'i ymgyrch Senedd@.
Cynhelir cyfarfodydd y Cynulliad gydag aelodau, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus a fydd yn edrych ar faterion megis Brexit, addysg uwch, amaethyddiaeth a busnes yn ystod Senedd@ Aberystwyth yr wythnos. Gan ddechrau mis Tachwedd, ac wrth baratoi ar gyfer yr ymgyrch, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda grwpiau, mudiad a busnesau lleol i gyflwyno cyfres o weithdai yn arwain at fis Rhagfyr.
Y nod yw casglu barn ac ymgysylltu â chymaint o bobl o bob sector a chymuned â phosib. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu'r gorau o Aberystwyth gydag arddangosfa arbennig gan y ffotograffydd lleol, Keith Morris Aberystwyth, Gorffennol, Presennol a Dyfodol.
Senedd@ Aberystwyth yw'r diweddaraf mewn cyfres o ymgyrchoedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan gynnal amrywiaeth o weithgarwch ymgysylltu a busnes ffurfiol y Cynulliad y tu allan i Fae Caerdydd. Mae'r Cynulliad eisoes wedi cynnal ymgyrchoedd yn Delyn, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
Dywedodd Aelod Cynulliad Lleol Ceredigion a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones;
"Rwyf wrth fy modd y bydd yr ymgyrch nesaf Senedd@ yn digwydd yn Aberystwyth, a gobeithiaf y bydd cymaint o bobl â phosib yn Aberystwyth a'r gymuned ehangach yn cymryd rhan, a dweud eu dweud am y materion sydd bwysicaf iddynt. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd sy'n gwasanaethu Cymru gyfan a'i phobl. Mae'n bwysig bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i holl bobl Cymru, a bod pobl o bob rhan o'r wlad yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau sydd yn y pen draw yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. "
Mae'r rhaglen ar gyfer digwyddiadau yn cynnwys:
- 3 Rhagfyr 2018 - Effaith Brexit ar Aberystwyth: Addysg Uwch, Iechyd a Masnach, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth
- 6 Rhagfyr 2018 – Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Craffu ar waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 6 Rhagfyr 2018 - Effaith Brexit ar Aberystwyth: Amaethyddiaeth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 7 Rhagfyr 2018 - Brecwast Busnes: Menter yn Aberystwyth - Y Dyfodol, Medina
- 7 Rhagfyr 2018 - Aberystwyth: Gorffennol, Presennol a Dyfodol, ac Arddangosfa Luniau gan Keith Morris, Yr Hen Goleg
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi ond gallwch gael y newyddion diweddaraf ar Senedd@ Aberystwyth trwy ddilyn @CynulliadCymru ar Twitter a'n tudalen Facebook neu ymweld â'r wefan www.cynulliad.cymru/seneddaber. I gymryd rhan yn y sesiynau hyn, cysylltwch â thim Senedd @Aberstwyth drwy cysylltu@cynulliad.cymru neu 0300 200 65 65