“Does dim rhaid i ail don fod yn anochel os caiff gwersi eu dysgu” – Dr Dai Lloyd AS

Cyhoeddwyd 08/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munud

Daeth gwendidau difrifol i’r amlwg mewn sawl maes yn sgil yr achosion o COVID-19, gan gynnwys darparu cyfarpar diogelu personol, cyfleusterau profi, y gallu o ran gofal critigol a'r gallu i amddiffyn pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. 

Dyna yw casgliad Pwyllgor Iechyd y Senedd, sydd heddiw’n lansio adroddiad eang yn amlinellu’r methiannau yn ystod y pandemig, a cyfres o argymhellion er mwyn i Lywodraeth Cymru atal yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pedwar mis diwethaf rhag cael yr un effaith eto.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Rhaid i ni fod yn fwy parod – ym mhob ffordd – ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau, yn enwedig yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Does dim rhaid i ail don fod yn anochel os caiff gwersi eu dysgu yn sgil y pedwar mis diwethaf.

“Gyda dyfodiad y feirws, roedd yna ymdeimlad amlwg o ofn ymysg staff y GIG a chartrefi gofal, gan eu bod yn dra ymwybodol o effeithiau Covid-19, ond dyma nhw’n mynd i’r gad o dan amgylchiadau anodd dros ben. 

“Mae cymdeithas bellach wedi dod i ddeall pwy yw’r gweithwyr allweddol go iawn. Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymateb yn arwrol i'r pandemig hwn. Â hwythau o dan bwysau eithafol, maen nhw wedi bod yn ddiwyro ac yn benderfynol wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil y feirws. Yn anffodus, fe gollodd rhai eu bywydau o ganlyniad i hyn. 

“Rydym wedi gweld gwaith tîm ar ei orau; yn cynnwys swyddogion iechyd, yr holl weithwyr allweddol a gofalwyr di-dâl. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwyrthiau er mwyn ceisio gwarchod a chefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Yn ein cymunedau, mae nifer helaeth o wirfoddolwyr wedi dod ynghyd, gan wneud popeth o ddosbarthu bwyd a meddyginiaethau, i greu cyfarpar diogelu personol fel sgrybs, gynau a masgiau. At hynny, mae'r cyhoedd wedi chwarae rhan, gan aberthu cyswllt â theulu a ffrindiau er budd pawb.    

“Heddiw, rydym ni’n amlinellu argymhellion clir er mwyn i Lywodraeth Cymru ddysgu yn sgil camgymeriadau a symud ymlaen, fel na fydd yn rhaid i ni wynebu erchyllterau'r pedwar mis diwethaf ar unrhyw adeg yn y dyfodol.”


Argymhellion y Pwyllgor

Profi

Bu diffyg eglurder llwyr ynghylch y rhaglen brofi yng Nghymru, gydag ansicrwydd ynghylch pwy oedd yn arwain, rheoli a chydlynu'r gwaith. Ni ellir pwysleisio digon pa mor bwysig yw cael proses syml a chlir ar gyfer profi.

Un o brif wersi’r ychydig fisoedd diwethaf yw bod cael mynediad at brofion, yn ôl yr angen, yn hollbwysig.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru, a’i phartneriaid, i sicrhau bod mynediad lleol at brawf i unrhyw un sydd ei angen, yn ôl yr angen. Mae angen i feddygon teulu a gofal sylfaenol fod yn rhan annatod o’r trefniadau hyn.

Olrhain cysylltiadau

Mae olrhain cysylltiadau yn dacteg brofedig wrth fynd i’r afael ag afiechydon heintus. Heb frechlyn, dyma'r unig ffordd o frwydro’n erbyn y feirws, mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol bod system olrhain cysylltiadau effeithiol ar waith i’r graddau eithaf. Bydd yr amser a gymerir cyn rhoi canlyniadau’r profion – a chywirdeb y canlyniadau hynny – yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu. 

Nid yw’r amser a gymerir ar hyn o bryd cyn rhoi canlyniadau’r profion yng Nghymru wedi creu argraff, ac mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ostwng yr amser a gymerir cyn rhoi canlyniadau’r profion. 

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, geisio sicrhau bod canlyniadau pob prawf yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr.

Cartrefi gofal

Mae'r Pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid mewn cartrefi gofal. Mae cartrefi gofal yn edrych ar ôl rhai o’r aelodau hynaf – a’r rheini sydd fwyaf agored i niwed –  yn ein cymdeithas. Maen nhw’n haeddu cael eu hamddiffyn os bydd argyfwng iechyd gwladol, ond fe’u siomwyd yn arw yn ystod yr argyfwng hwn. 

Roedd dull cychwynnol Llywodraeth Cymru o brofi mewn cartrefi gofal yn ddiffygiol, ym marn y Pwyllgor, ac yn rhy araf wrth ymateb i’r argyfwng cynyddol, gyda marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 28 y cant o’r holl farwolaethau o’r Coronafeirws yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod profion mewn cartrefi gofal yn digwydd yn rheolaidd ac yn systematig a bod profion o’r fath yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant addas yn hytrach na defnyddio pecynnau profi gartref. 

Cyfarpar Diogelu Personol

Diffyg cyfarpar diogelu personol priodol oedd un o'r materion pennaf o dan sylw pan ddaeth achosion o’r feirws i’r amlwg yn y lle cyntaf. Mae'n destun pryder mawr bod Cymru, ar brydiau, wedi dod o fewn dyddiau i redeg allan o’r cyfarpar hwnnw. Mae'r sefyllfa wedi gwella dros amser, ond mae'r system yn parhau i fod yn 'sefydlog ond bregus'.

Canfuwyd bod y dull yn y DU o ddibynnu ar ddarparwyr tramor ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol  – a sicrhau bod yna gyflenwadau 'jyst mewn pryd' pan fydd eu hangen – yn ddiffygiol yn wyneb pandemig byd-eang a’r pwysau yn sgil hynny. 

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau canlynol ar fyrder:
  • cyhoeddi strategaeth ar gyfer sicrhau cyflenwad gwydn o gyfarpar diogelu personol;
  • casglu ynghyd lefelau digonol o gyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer unrhyw achos yn y dyfodol;
  • adolygu’r cyfarpar diogelu personol y mae wedi’i gasglu ynghyd i sicrhau ei fod yn parhau i fod o ansawdd digonol a’i fod yn addas at y diben, gan gynnwys bod y dyluniad a’r ffit yn briodol ar gyfer pawb sy’n ei wisgo ac yn addas ar gyfer staff, cleifion neu ofalwyr sy’n fyddar neu â nam ar eu clyw;
  • cyhoeddi strategaeth ar gyfer sicrhau gwydnwch y trefniadau dosbarthu ar gyfer cyfarpar diogelu personol;
  • gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu diweddaru yng ngoleuni’r cyngor gwyddonol diweddaraf, a chyfathrebu’r cyngor hwn yn glir i’r staff.
Cefnogaeth i bobl sy'n gwarchod eu hunain

Ni lwyddwyd i ddwyn perswâd ar y Pwyllgor bod y penderfyniad i gysylltu llythyron i gynghori pobl i ‘warchod eu hunain’ â darpariaeth gwasanaethau – er enghraifft siopa am fwyd ar-lein a chludo meddyginiaethau – yn benderfyniad effeithiol. I lawer iawn o bobl, bu’n destun pryder mawr. Rhoddwyd manylion y rheini oedd yn gwarchod eu hunain i archfarchnadoedd mawr yn Lloegr, ond nid dyna oedd yr achos yng Nghymru. 

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-edrych ar y trefniadau gyda’r prif archfarchnadoedd i sicrhau y bydd digon o wasanaethau siopa bwyd ar-lein a danfon i’r cartref er mwyn ateb y galw, yn enwedig yn ystod y gaeaf sydd i ddod. 

Negeseuon cyhoeddus

Mae'r cyhoedd wedi aberthu cymaint yn ystod cyfnod y Coronafeirws. Cafodd teuluoedd a ffrindiau eu gwahanu, ac mae'r rheini sydd fwyaf agored i niwed wedi'u hynysu. Mae eu hymdrechion ar y cyd i gadw at reolau’r cyfyngiadau symud wedi atal y feirws rhag lledaenu i raddau helaeth.

Wrth symud i’r dyfodol, bydd ymddiriedaeth y cyhoedd yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu – a’u cydymffurfiaeth â’r strategaeth honno – yn hanfodol. Bydd angen pwysleisio negeseuon cyhoeddus clir a’u hailadrodd yn gyson, ynghylch y cyfrifoldeb cymdeithasol sydd ar bawb o ran hunan ynysu os oes ganddynt symptomau, a threfnu cael prawf ar frys. 

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru gan weithio gyda’i phartneriaid, sicrhau system o negeseuon cyhoeddus clir ac ailadroddus - ar lefel genedlaethol a lleol - ynghylch cyfrifoldebau unigolion i hunan ynysu os oes ganddynt symptomau, a phwysigrwydd hunan gyfeirio ar frys i gael prawf. 

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried argymhellion y pwyllgor.