Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael dweud eu dweud ar effaith COVID-19

Cyhoeddwyd 16/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn adroddiad eang a beirniadol gan Bwyllgor Iechyd y Senedd, mae arolwg dilynol  wedi datgelu effaith COVID-19 ar waith ac ar fywydau personol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Cododd adroddiad y Pwyllgor gwestiynau sylfaenol am gartrefi gofal, cyfarpar diogelu personol (PPE), profion a'r materion sy'n wynebu pobl sy'n cael eu gwarchod.

Bydd y Pwyllgor nawr yn cyflwyno canfyddiadau'r adroddiad a'r arolwg i Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd ar ddydd Iau (16 Gorffennaf). Bydd yr Aelodau o'r Senedd yn defnyddio tystiolaeth gan weithwyr rheng flaen wrth iddynt holi'r Gweinidog, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.

Yr Arolwg

Mae'r Pwyllgor wedi clywed gan nyrsys, fferyllwyr, deintyddion, radiograffwyr, gofalwyr a chwnselwyr ledled Cymru. Gofynnwyd i weithwyr rheng flaen rannu eu profiadau a'u barn ar effaith COVID-19.

Roedd amrywiaeth eang o faterion wedi eu cynnwys ymhlith yr ymatebion, o bryderon ymarferol uniongyrchol i oblygiadau tymor hwy. Yn ogystal â chyfarpar diogelu personol (PPE), profi, gwarchod pobl agored i niwed a goblygiadau ariannol, roedd yr ymatebion yn codi nifer o faterion allweddol eraill hefyd, gan gynnwys llacio cyfyngiadau a strategaeth ymadael, effaith tarfu ar wasanaethau ac adleoli staff, iechyd meddwl, effaith ar ofalwyr di-dâl, rhoi gwybodaeth i bobl, ac arferion gwaith newydd.

Disgrifiodd Joanna Rees, fferyllydd ysbyty o Sir Benfro yr anawsterau ymarferol o fod ar gael i weithio wrth ofalu am deulu:

"Rwy'n fferyllydd ysbyty sydd wedi newid i weithio sifftiau er mwyn cadw pellter cymdeithasol yn ein hadran. Rwyf bellach yn gweithio dyddiau 12 awr ac mae gofal plant yn anhygoel o anodd gyda dau o blant oed meithrin.

"Er mwyn helpu, gallai Llywodraeth Cymru ddarparu cyfleusterau gofal plant sydd ar agor ar benwythnosau. Mae fy ngŵr yn ffermwr ac mae fy rota yn un 7 diwrnod treigl. Ar rai penwythnosau rwy'n gweithio 12 awr ar ddydd Sadwrn a dydd Sul - heb unrhyw ofal plant mae'n golygu defnyddio fy ngwyliau blynyddol."

Dywedodd Sandra Morris, deintydd a chyfarwyddwr cwmni o Bowys fod goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei phractis yn ddifrifol:

"Rwy'n rhedeg practis deintyddol preifat bach. Mae ein hincwm wedi gostwng i ffracsiwn bach o'r hyn ydoedd. Rydym wedi rhoi ein holl staff ar ffyrlo.  Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi dechrau gweld ambell i glaf am ofal brys os oes angen. Rydym wedi dal ati drwy ddefnyddio fy nghynilion a Benthyciad Adfer.  Mae'n rhwystredig bod yn rhaid inni dalu ardrethi busnes er na allwn weithio fel arfer. Mae trethi holl feddygfeydd y GIG yn cael eu talu drostynt.

"Mae PPE yn mynd i fod yn gur pen pan fyddwn yn ailagor gan ei bod yn anodd cael masgiau FFP3. Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi gosod rheolau llymach nag yn Lloegr a fydd yn rhoi cleifion dan anfantais, ac efallai y bydd angen inni eu hanfon dros y ffin i gael gofal os na allwn ni wneud hynny. Mae rheolau'r DU ar gyfer deintyddiaeth yn gyffredinol yn llawer mwy cyfyng na gwledydd eraill e.e. Yr Eidal a Ffrainc, o ran gofynion PPE a phrotocolau glanhau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn dechrau colli arian yn gyflymach cyn gynted ag y byddwn yn ailagor.

"Rwy'n gweddïo y bydd hyn i gyd yn dod i ben cyn imi redeg allan o arian, ond ni allwn aros ar gau am byth. Mae angen gofal ar gleifion o hyd.

"Dylai Llywodraeth Cymru estyn y gwyliau ardrethi busnes i fusnesau gofal iechyd. Dylai'r Prif Swyddog Deintyddol sicrhau bod Gweithdrefnau Gweithredu Safonol yn seiliedig ar ymchwil wyddonol a sicrhau nad ydynt yn cael eu goreuro y tu hwnt i reswm.

"Dylid ymchwilio i weithgareddau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol am ei ddefnydd o'r cynllun ffyrlo tra'i fod yn parhau i gynnal y ffioedd a godir ar unigolion cofrestredig. Dylai fod yn bosibl i unigolion cofrestredig dalu mewn rhandaliadau."

Ychwanegodd Dr Dai Lloyd AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd:

"Er mwyn inni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mae'n hanfodol bod y Pwyllgor yn clywed gan y rhai sy'n byw ac yn gweithio drwy'r pandemig, y rhai sy'n gofalu amdanom, ynghylch sut mae'r pandemig yn effeithio ar eu gwaith a'u bywydau. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwrando ar eu barn ynghylch y ffordd yr ymdrinnir â'r argyfwng.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu profiadau gyda ni."