Mae adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion gan gwmnïau dŵr i afonydd Cymru.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion i ddiogelu dyfrffyrdd Cymru, gan alw ar Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i ddechrau gweithio gyda chwmnïau dŵr ar unwaith i leihau faint o garthion amrwd sy'n cael eu gollwng i afonydd.
Pan fydd gweithfeydd trin gwastraff yn cael eu llethu gan ddŵr yn dilyn glawiad eithafol, mae’n arfer eu bod yn cael rhyddhau carthion heb eu trin drwy 'orlifoedd storm' i afonydd i reoli'r sefyllfa.
Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn nodi gyda phryder pa mor aml mae’r gollyngiadau carthion hyn yn digwydd, a faint mae hyn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2016, cofnodwyd ychydig o dan 15,000 o ddigwyddiadau o'r fath gan 545 o fonitorau yng Nghymru. Erbyn 2020, er bod nifer y monitorau ond wedi cynyddu i 2,000; roedd dros 105,000 o achosion o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i gyrsiau dŵr yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryder ychwanegol; nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys gorlifoedd storm heb eu trwyddedu na gorlifoedd storm nad ydynt yn cael eu monitro gan gwmnïau dŵr, sy'n golygu bod y nifer wirioneddol o achosion o ollwng carthion yn llawer uwch.
O ganlyniad i hyn, un o'r pethau y mae'r Pwyllgor yn galw amdano yw trefniadau monitro gwell i fesur yn gywir yr effaith y mae gollyngiadau'n ei chael ar yr amgylchedd naturiol.
Mae'r Pwyllgor wedi rhoi chwe mis i Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, weithio gyda chwmnïau dŵr i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn yr adroddiad hwn cyn y gofynnir iddi ymddangos gerbron y Pwyllgor.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai cynllun y Gweinidog i fynd i’r afael â'r mater, y ‘Map Ffordd ar gyfer Gorlifoedd Storm’, gynnwys targedau ac amserlenni ar gyfer lleihau gollyngiadau carthion.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar y ddau gwmni dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, i lunio adroddiad ynghylch gollyngiadau o orlifoedd storm “cyn pen awr ar ôl i’r gollyngiad ddechrau”, sy'n ofyniad a osodir ar gwmnïau dŵr yn Lloegr eisoes. Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd ymlaen i ddweud "os na allant gyflawni’r safon hon, dylai’r ddau gwmni egluro pam."
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; "Dylai gorlifoedd storm weithredu'n anaml ac mewn tywydd eithriadol - ond nid dyna sy'n digwydd. Yn lle hynny, rydym yn gweld nifer y digwyddiadau yn cynyddu'n sydyn, a sawl adroddiad am garthion yn ein hafonydd.
“Nid yw’n iawn bod rhiant yn ofni gadael i'w blentyn nofio mewn afon yng Nghymru rhag ofn ei fod yn cynnwys llygredd a gwastraff dynol. Mae’n gwbl resymol bod y cyhoedd wedi'u gwylltio gan yr hyn y maent yn ei weld - mae’n annerbyniol.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y dystiolaeth rydym wedi'i chasglu a gweithredu ar unwaith i sicrhau bod nifer a maint y gollyngiadau hyn yn gostwng."