Dweud eich dweud ar ofal preswyl ar gyfer pobl hyn
31 October 2011
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hyn, ac mae’n galw am dystiolaeth gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb yn y maes.
Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn archwilio darpariaeth gofal preswyl ar gyfer bobl hyn yng Nghymru a sut y gall ddiwallu eu hanghenion yn awr ac yn y dyfodol.
Bydd yn ystyried y broses y mae pobl hyn yn ei dilyn wrth fynd i ofal preswyl, ac argaeledd gwasanaethau amgen a allai olygu nad oes angen iddynt wneud hynny.
Mae gan y Pwyllgor hefyd diddordeb yng ngallu’r sector gofal preswyl i ddiwallu’r galw gan bobl hyn am wasanaethau, o ran staffio, nifer y lleoedd, a chyfleusterau.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried safon gofal preswyl a sut y caiff y broses o gau cartrefi preswyl ei rheoli.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Bydd hwn yn ymchwiliad pwysig, ac rydym yn gobeithio clywed gan ddefnyddwyr y gwasanaethau, eu teuluoedd a sefydliadau proffesiynol ynghylch pob agwedd ar ofal preswyl, gan gynnwys y llwybrau a ddilynir i fynd i ofal preswyl, pa mor effeithiol y mae gwasanaethau’n diwallu anghenion amrywiol, a sut y cânt eu rheoleiddio a’u harolygu.
“Fel Pwyllgor, mae gennym ddiddordeb mawr mewn cael darlun o fodel gofal posibl yn y dyfodol, o ystyried modelau newydd o ddarpariaeth gofal a modelau sydd ar y gweill, a’r cydbwysedd rhwng y ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol.
“Bydd bron pob un ohonom yn wynebu henaint, a gall darparu gofal o safon uchel fod yn bwnc emosiynol. Nod ein hymchwiliad yw datblygu dealltwriaeth well o’r galw am wasanaethau gofal preswyl a’r cyflenwad ohonynt, a helpu i gynllunio’n fwy effeithiol yn y dyfodol.
“Rydym yn annog cynifer o bobl â phosibl i gysylltu â ni i ddweud eu dweud ar y pwnc pwysig hwn.”
Gellir gweld cylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad ar wefan y pwyllgor. Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy anfon e-bost at: HSCCommittee@wales.gov.uk, neu drwy’r post: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.