Dweud eich dweud! Cymerwch ran uniongyrchol yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol drwy ein fforwm drafod ryngweithiol newydd.
Gallwch chi, y pleidleisiwr, arwain y drafodaeth drwy ddweud wrthym beth y dylai eich Aelodau Cynulliad roi sylw iddo.
Mae’r fforwm ‘Dweud eich Dweud’ yn fforwm rhyngweithiol newydd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae tair blaenoriaeth i waith y Cynulliad dros y pum mlynedd nesaf:
- cyfleu’r hyn mae’n ei wneud yn fwy effeithiol
- sicrhau y rhoddir y cyfle i bobl gymryd rhan yn y gwaith o ddeddfu a chraffu ar y llywodraeth
- sicrhau canlyniadau ymarferol i holl bobl Cymru.
Dyna pam mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwella’r gwasanaethau a gaiff eu cynnig ar y wefan.
“Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf modern a chynhwysol sydd ar gael i helpu pobl i ddeall, ymgysylltu a chymryd rhan yn nemocratiaeth Cymru,” meddai Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd.
“Drwy ddefnyddio technoleg newydd, mae potensial i ymgysylltu â phobl na fyddai fel arfer, o bosibl, yn cymryd rhan ym musnes y Cynulliad.
“Mae’r Cynulliad am i chi ddweud eich dweud am y materion sydd o ddiddordeb i chi.
“Drwy ddatblygu’r fforwm ‘dweud eich dweud’, mae modd i chi ddweud wrthym beth sydd ar eich meddwl ac anfon syniadau atom am bynciau newydd fel y gallwch chi arwain y drafodaeth ddigidol.
“Yn syml felly, y brif neges yw cymryd rhan – a dweud eich dweud!”
Bydd y rhai sy’n defnyddio’r wefan hefyd yn gallu edrych ar waith y Cynulliad yn ei Gyfarfod Llawn a’i Bwyllgorau.
Gallant hefyd fanteisio ar y cyfle i gyflwyno e-ddeiseb – a bydd y Pwyllgor Deisebau yn edrych ar bob deiseb.
Er mwyn gweld y gwasanaethau gwell sydd ar ein gwefan, ewch i www.cynulliadcymru.org.
Fersiwn Clywedol (mp3) (Saesneg yn Unig)