Dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif gan 170 argymhelliad y Pwyllgor Archwilio
Rhyddhaodd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad blynyddol, ‘adolygiad o’r flwyddyn 2007-08’ heddiw.
Dengys yr adroddiad bod y Pwyllgor, yn syfrdanol, wedi gwneud 170 argymhelliad i lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod 16 mis yr adroddiad, a derbyniwyd y cyfan ohonynt gan Weinidogion Cymru.
Cyhoeddodd y Pwyllgor 13 o adroddiadau’n archwilio effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyflenwi polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar draws ystod eang o feysydd.
“Mae’r Pwyllgor Archwilio’n ymroddedig i ddatod y materion cymhleth sy’n effeithio ar gyflenwi polisïau llywodraeth Cymru yng Nghymru,” meddai Jonathan Morgan AC, cadeirydd y pwyllgor, a ddywedodd:
“Mae’n hanfodol bwysig i ddinasyddion Cymru bod polisïau a gynlluniwyd i wella gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflenwi mewn modd effeithiol, effeithlon a chyda gwerth am arian yn ganolog i lywodraethu yng Nghymru.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Pwyllgor Archwilio wedi gwneud llawer o argymhellion i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cynnwys rhai a gynlluniwyd i osgoi blocio gwelyau ac eraill a fydd yn helpu i arafu lledaenu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd fel MRSA.
“Deilliodd argymhellion eraill o archwiliad y Pwyllgor o brosiectau LG yng Nghasnewydd lle’r oedd cwymp y cwmni dan sylw wedi arwain at golli arian cyhoeddus. Llwyddodd y Pwyllgor i amlygu sawl maes allweddol a ddylid ei gryfhau gan lywodraeth Cymru er mwyn lleihau’r risg i arian cyhoeddus a ddefnyddir mewn prosiectau yn y dyfodol.
“Bydd y Pwyllgor yn parhau i ddwyn llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn archwilio’n fanwl y materion sydd mor bwysig i ddinasyddion Cymru.”
Mae’r Pwyllgor Archwilio ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i drais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff y Gwasanaeth Iechyd a’r Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru. Disgwylir i adroddiadau ar ganfyddiadau’r ddau ymchwiliad gael eu cyhoeddi erbyn diwedd tymor yr haf.