Dychwelyd i’r Siambr ar ôl y gwaith ailddatblygu

Cyhoeddwyd 24/02/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2026   |   Amser darllen munudau

Bydd Aelodau o’r Senedd yn dychwelyd i’r Siambr ddydd Mawrth 24 Chwefror ar ôl blwyddyn o waith ailddatblygu i ehangu’r siambr drafod yn barod am y 36 o Aelodau ychwanegol ar 7 Mai 2026.

Mae’r gwaith hwn yn nodi’r newid mwyaf i adeilad y Senedd ers iddo agor 20 mlynedd yn ôl ar 1 Mawrth 2006, ac mae’n symbol o’r datblygiad mwyaf sylweddol ers datganoli yng Nghymru.

Am y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Aelodau wedi cyfarfod yn y siambr drafod yn adeilad Tŷ Hywel y tu ôl i’r Senedd. Gyda’r gwaith bellach ar ben, bydd y lle hwnnw’n cael ei ddefnyddio eto ar gyfer rhaglen addysg ac ymwelwyr y Senedd, i gynnal sesiynau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

“Wrth i ni ddychwelyd i’r Siambr, rydyn ni’n nodi carreg filltir bwysig i’n Senedd. Mae ein siambr drafod wedi cael ei thrawsnewid i ddiwallu anghenion senedd fwy a chyfnod newydd o ddemocratiaeth Cymru wrth i ni edrych ymlaen at yr etholiad ar 7 Mai. Mae hwn yn adeilad sy’n cynrychioli gonestrwydd, cynaliadwyedd a’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r newidiadau’n adlewyrchu’r bennod nesaf yn ein taith ddemocrataidd.”

Mae’r Aelodau’n dychwelyd i’r Siambr ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 1:30pm ddydd Mawrth 24 Chwefror. Yr eitem gyntaf ar yr agenda fydd sesiwn wythnosol Cwestiynau’r Prif Weinidog, a gellir ei gwylio’n fyw ar Senedd.tv

Paratoi ar gyfer 96 o Aelodau

Mae’r Siambr wedi’i hehangu i ddarparu ar gyfer 96 o Aelodau drwy dynnu paneli y wal gefn i greu mwy o le, rhywbeth a oedd yn rhan o’r dyluniad gwreiddiol ddau ddegawd yn ôl.

Mae’r Siambr newydd yn cynnwys:

  • 36 o ddesgiau ychwanegol
  • Gwell hygyrchedd, gyda’r holl risiau mewnol wedi’u tynnu
  • Systemau darlledu a TGCh wedi’u huwchraddio

Mae’r Senedd wedi cael ei chanmol yn eang am ei dyluniad amgylcheddol - ei golau naturiol, ei hawyru naturiol, gwresogi ac oeri carbon isel, a chynaeafu dŵr glaw. Mae iddi statws BREEAM Rhagorol ac mae’n parhau i weithredu gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddi.

Mae’r gwaith i ehangu’r Siambr yn anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw drwy:

  • Ailddefnyddio derw Cymreig o’r desgiau gwreiddiol
  • Adnewyddu ac ailddefnyddio drysau derw presennol
  • Defnyddio llechi o’r un chwarel yng Nghymru â’r gwaith adeiladu yn 2006
  • Comisiynu contractwyr o Gymru yn bennaf

Goruchwyliwyd y gwaith ailgynllunio gan RSHP, y penseiri a oedd yn gyfrifol am yr adeilad gwreiddiol, gan sicrhau bod y gwaith ehangu yn aros yn ffyddlon i’r dyluniad eiconig.

Dywedodd Ivan Harbour, Uwch-gyfarwyddwr Dylunio, RSHP:

“Bum mlynedd ar hugain yn ôl, aethon ni ati i greu cartref arwyddluniol i ddemocratiaeth Cymru, gyda’r Siambr wrth ei galon, wedi’i gynllunio i annog y cyhoedd i ymgysylltu â bywyd gwleidyddol. Heddiw, mae’r gwaith ehangu sensitif hwn, a gynlluniwyd beth amser yn ôl, yn caniatáu i’r Siambr ddarparu ar gyfer mwy o Aelodau o’r Senedd wrth barhau â’i gonestrwydd, ei thryloywder, a’r ysbryd gwreiddiol ar gyfer cyfranogi sydd wedi siapio hunaniaeth y Senedd.”

Er 2006, mae’r Senedd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, gan gynnwys anrhydeddau fel Gwobr Genedlaethol RIBA, Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig, a Gwobr Ryngwladol Chicago Athenaeum, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr RIBA Stirling.

Carreg filltir hanesyddol

Wrth i ni ddychwelyd i’r Siambr estynedig, mae’r Senedd yn dathlu 20 mlynedd ers i’r adeilad agor am y tro cyntaf, ac mae Cymru yn paratoi ar gyfer un o’r etholiadau mwyaf arwyddocaol yn ei hanes.

Ynghyd â’r 36 o Aelodau ychwanegol, mae system etholiadol newydd ac 16 o etholaethau newydd y byddant yn eu cynrychioli. Ar y diwrnod pleidleisio ar 7 Mai, gofynnir i bleidleiswyr ddewis un blaid neu ymgeisydd annibynnol i’w cynrychioli. Bydd chwe Aelod yn cynrychioli pob etholaeth, a ddewisir drwy system rhestr gyfrannol.

Ers 1 Mawrth 2006, mae adeilad y Senedd yn sefyll fel symbol byd-eang o ddemocratiaeth, tryloywder a dylunio cynaliadwy i Gymru. Mae gwaith ailddatblygu Siambr 2026 yn sicrhau y bydd yn parhau i ddiwallu anghenion senedd fodern sy’n ymhell i’r dyfodol.

Mwy am y stori yma

Gwybodaeth am yr etholiad ar 7 Mai 2026

Dysgwch am adeilad y Senedd

Ymweld â'r Senedd