Dydd Gŵyl Dewi - dathliad o gerddoriaeth yn y Senedd

Cyhoeddwyd 28/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2017

 

Bydd y gantores/cyfansoddwraig o Ferthyr, Kizzy Crawford, yn perfformio mewn arddangosfa o dalent gerddorol ifanc Gymreig yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd Kizzy, a enillodd wobr Canwr-gyfansoddwr Gwreiddiol Arts Connect yn 2012 ac sydd wedi gweithio gyda'r enillydd gwobr Grammy a'r gyfansoddwraig Gymreig Amy Wadge, yn ymddangos mewn derbyniad cyhoeddus yn y Senedd.

Hefyd yn perfformio bydd perfformwyr o Brosiect Gorwelion BBC Cymru yn cynnwys Danielle Lewis ac Aled Rheon yn ogystal â chôr Meibion Beaufort.

Yn ystod y digwyddiad bydd y Senedd wedi ei oleuo yn lliwiau baner Cymru.

Yn gynharach yn y dydd bydd deugain o blant yn ymweld o ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn cymryd rhan mewn parti Dydd Gŵyl Dewi gyda chelf a chrefft cyn dyfodiad y neges Dydd Gŵyl Dewi flynyddol.

Am y tro cyntaf, bydd y neges yn cael ei hysgrifennu gan Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, esgob benywaidd cyntaf Cymru.

"Mae cerddoriaeth yn edau mor wych yng ngwead diwylliant Cymru felly rwy'n edrych ymlaen at arddangos rhai o'n doniau disgleiriaf yng Nghymru yn y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi," meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at y neges Dydd Gŵyl Dewi gyntaf gan esgob benywaidd cyntaf Cymru, Joanna Penberthy, gan ei bod mor bwysig i ni nodi cyfoeth ac amrywiaeth ein cymdeithas yng Nghymru."

Yn y cyfnod hyd at 1 Mawrth mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd wedi bod yn gofyn i bobl egluro beth mae Cymru'n ei olygu iddyn nhw mewn un gair. Bydd awgrymiadau yn cael eu troi'n gyfres o ddelweddau ar thema Gymreig a'u harddangos yn y Senedd.

Gall pobl barhau i wneud awgrymiadau drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cynulliad, drwy flychau awgrymiadau yn y Senedd a'r Pierhead neu drwy luniau a fideos.

Gall unrhyw un sy'n dymuno mynd i'r derbyniad gyda'r hwyr archebu tocynnau drwy ymweld â'r adran ddigwyddiadau ar dudalen Senedd y Cynulliad Cenedlaethol ar Facebook.

Rhaglen Dydd Gŵyl Dewi:

12.00 - parti plant Dydd Gŵyl Dewi
14.30 - Neges Dydd Gŵyl Dewi yn cyrraedd
18.00 - Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi: Dathlu Cerddoriaeth Ifanc Cymru