Mae’r Llywydd, Elin Jones AS, wedi gosod datganiad gerbron y Senedd heddiw yn cyhoeddi y bydd is-etholiad Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref 2025 .
Mae’r Llywydd wedi ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau yn gofyn iddo drefnu i’r pôl gael ei gynnal ar y dyddiad hwnnw.