Mae’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn wynebu caledi difrifol wrth i gymorth costau byw tymor byr i ben. Mae adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd - Anghynaladwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol - a gyhoeddwyd heddiw, yn pwysleisio’r angen am ddull ataliol, mwy hirdymor.
Mae'r adroddiad yn nodi 14 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys scandal mesuryddion rhagdalu, yn ogystal â newyn a dyled.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd:
“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar iechyd a chyfoeth ein cenedl ac mae gormod o aelwydydd yn wynebu caledi annerbyniol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
“Mae prisiau bwyd, gwresogi a hanfodion sylfaenol eraill wedi codi’n aruthrol ac mae Llywodraethau wedi bod yn ceisio dal i fyny’n gyson o ran eu hymateb i swm yr heriau a wynebir. Dim ond lleihau’r ergyd y mae’r ymyriadau wedi’i wneud.
“Mae’r pwerau pwysicaf ar gyfer polisïau economaidd, sef trethi a gwariant, a’r system fudd-daliadau, o dan reolaeth Llywodraeth y DU yn Llundain. Mae cwestiynau ynghylch pam mae prisiau’n codi’n gynt yn y DU nag mewn mannau eraill yn Ewrop, a pham mae cyflogau wedi gostwng mewn termau real ers dros ddegawd, yn faterion i Lywodraeth y DU roi sylw iddynt.
“Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hwn, a ddisgrifiwyd fel achubiaeth i lawer. Mae pryderon ynghylch yr hyn sy’n digwydd nesaf wrth i’r cymorth sydd ar gael leihau ac wrth i aelwydydd wynebu prisiau uwch yn barhaol.”
Yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth syfrdanol am effaith yr argyfwng ar y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru nad oes gan gannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru ddigon o arian i fyw arno ar hyn o bryd. Cefnogodd Cyngor ar Bopeth Cymru bron i 40,000 o bobl gyda chyngor ar ddyled yn 2022, a gwnaeth y niferoedd a oedd yn gofyn am gyngor ar ddyledion ynni gyrraedd ei lefel uchaf erioed. Mae bron i hanner eu cleientiaid (48 y cant) bellach yn byw ar gyllideb negyddol, sy’n fwy na’r 36 y cant ar ddechrau 2019.
Roedd gan 13 y cant o bobl ôl-ddyledion ar o leiaf un bil cartref ac roedd 28 y cant wedi benthyca arian i dalu costau bob dydd, yn ôl astudiaeth gan y Sefydliad Bevan.
Mewn cyfres o grwpiau ffocws, casglwyd barn unigolion sydd â phrofiad o fyw heb ddigon o arian i dalu am fwyd a chostau sylfaenol eraill y cartref. Daeth i’r amlwg hefyd fod heriau costau byw yn aml yn gysylltiedig â llesiant meddyliol a chorfforol y cyfranwyr.
Gofynnodd un person a fu'n cymryd rhan:
“Beth arall allwn ni ei wneud? Pryd ddylai rhywun ildio? “Dydyn ni ddim yn byw - dim ond yn bodoli rydyn ni”
Mae’r dystiolaeth yn dangos fod prisiau cynyddol yn cael effaith anghymesur ar rieni sengl, rhentwyr, gofalwyr, pobl ag anableddau a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae caledi economaidd hefyd yn effeithio aelwydydd sy’n uwch ar y raddfa incwm gydag aelwydydd sy’n gweithio amser llawn yn gofyn am gymorth gan elusennau.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r argyfwng costau byw gyda phecynnau cymorth sylweddol. Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod perygl i’r ymateb fod yn “blastr ar y briw”, pan mai’r hyn sydd ei angen yw dull mwy cynaliadwy, hirdymor, sy’n fwy effeithiol o ran lleihau tlodi a chaledi.
Mae’n adleisio casgliad tebyg a gafwyd yn adroddiad y Pwyllgor ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 a oedd yn galw am greu cynllun costau byw. Mae’r Pwyllgor yn pwysleisio eto y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor sy’n blaenoriaethu camau ataliol a gwariant ataliol sydd â’r nod o fynd i'r afael â ffactorau sy’n arwain at dlodi, yn hytrach na chanolbwyntio ar y symptomau.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Monitro effaith prisiau cynyddol yn ofalus a pharhau i ddarparu cymorth i aelwydydd i helpu gyda chostau byw.
- Defnyddio dull cynaliadwy ar gyfer atal tlodi drwy fuddsoddi mewn sgiliau, ynni gwyrdd a diogeledd bwyd.
- Mynd i’r afael â thlodi bwyd drwy gefnogi gwasanaethau lleol sy’n darparu prydau iach ac yn addysgu sgiliau coginio mewn cymunedau.
- Rhoi eglurhad ar fyrder ynghylch cynlluniau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
- Nodi pa drafodaethau y mae wedi’u cael ag Ofgem i godi ei bryderon ynghylch ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu dan orfod.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu aelwydydd sy’n cael un budd-dal yng Nghymru i fod yn gymwys yn awtomatig ar gyfer budd-daliadau eraill y mae ganddynt hawl iddynt.