Dylai sefydliadau lleol fel busnesau a darparwyr twristiaeth argymell lle mae awdurdodau lleol yn gwario arian a gesglir o’r ardoll ymwelwyr arfaethedig, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Yn dilyn ei waith craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i godi tâl ar dwristiaid sy’n aros yng Nghymru, mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cyhoeddi adroddiad yn galw am greu ‘fforymau ardoll ymwelwyr’ i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwrando ar fusnesau a chyrff lleol eraill wrth benderfynu sut y dylid gwario arian.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dilyn yr esiampl a osodwyd yn yr Alban, ble mae deddf debyg wedi dod i rym yn ddiweddar, ac yn sefydlu Fforwm Ymwelwyr i ddod â chymunedau a diwydiant ynghyd i gael llais yn y broses.
Daeth mwyafrif y Pwyllgor i’r casgliad y dylai’r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y gyfraith arfaethedig ac y dylai symud i gam nesaf y broses ddeddfu.
Rheolau arfaethedig
Bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru y bu’r Pwyllgor yn craffu arni, y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) – a elwir yn gyffredin yn ‘ardoll ymwelwyr’ neu’n ‘dreth twristiaeth’ – yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol godi tâl ar ymwelwyr sy’n aros dros nos.
O dan y cynigion presennol, byddai’r swm a godir ar dwristiaid yn amrywio, o’r rhai sy’n aros mewn hosteli neu fannau gwersylla yn talu £0.75 y pen y noson, gyda phobl sy’n aros mewn llety gwyliau arall fel gwestai neu dai sy’n cael eu llogi yn talu £1.25 y pen y noson.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor ei bod yn amcangyfrif y gallai hyn godi hyd at £33 miliwn y flwyddyn ond dywedodd rhai gwestai a sefydliadau twristiaeth y gallai’r cynllun hwn atal ymwelwyr rhag dod i Gymru.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Mae gan yr ardoll ymwelwyr y potensial i gynhyrchu degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn y gellir eu hailfuddsoddi i gynnal a gwella cyfleusterau lleol, megis llwybrau a thoiledau cyhoeddus, gan gefnogi trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd defnyddio’r arian hwn i wella seilwaith lleol o fudd i’n cymunedau ac yn meithrin twristiaeth gynaliadwy.
“Un o’n hargymhellion allweddol yw y dylid diwygio’r gyfraith hon i nodi y dylai busnesau a chyrff twristiaeth eistedd gydag awdurdodau lleol i gydweithio ar ble y dylid gwario’r arian.
“Wrth gwrs, clywsom hefyd bryderon gan y diwydiant twristiaeth ynglŷn â sut y gallai’r tâl hwn atal pobl rhag ymweld â Chymru. Ond rwy'n hyderus y gall ymagwedd synhwyrol a chydweithredol fod o fudd i'n heconomi tra'n cadw apêl Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf. Mae gan y ddeddfwriaeth hon y potensial i wneud i dwristiaeth weithio’n well i Gymru.”
Mae disgwyl i’r Senedd gynnal dadl a phleidlais ar gam cyntaf y gyfraith arfaethedig ddydd Mawrth, 1 Ebrill.