Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau er mwyn dod â'r loteri cod post ar gyfer gofalwyr i ben.

Cyhoeddwyd 02/04/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau er mwyn dod â'r loteri cod post ar gyfer gofalwyr i ben.

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau i ddeddfu ym maes gofalwyr.

Dyna argymhelliad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 y Cynulliad ar ôl bod yn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â Gofalwyr.

Mae’r Aelodau o’r farn y byddai’n bosibl defnyddio’r pwerau deddfu newydd i fynd i’r afael â’r amrywiad yn asesiadau gofalwyr a’r gwasanaethau a ddarperir i ofalwyr mewn gwahanol rannau o Gymru.

“Mae codi am ofal cymdeithasol dibreswyl yn faes pwysig ac yn un emosiynol iawn yn aml,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Barn gref y Pwyllgor yw y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y pwer i ddeddfu yn y maes hwn.

“Ymgynghorwyd yn eang a’r prif bryder a ddaeth yn amlwg i ni oedd bod asesiadau gofalwyr a gwasanaethau ar eu cyfer yn ddarniog ledled Cymru ac nad ydym eto wedi cyrraedd y ffordd gydgysylltiedig sydd ei hangen, rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a’r GIG, i ganfod mwy o ofalwyr a sicrhau mwy o wasanaethau i ofalwyr.”

Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Rhagfyr y llynedd i ystyried y Gorchymyn arfaethedig.

Mae wedi ymgynghori â llawer o randdeiliaid mewn meysydd sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.

“Rydym yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i’r egwyddor gyffredinol o roi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru.

“Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth i’r gofal a ddarperir gan ofalwyr ac yn hybu llesiant gofalwyr.”

Rhoddodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, hefyd dystiolaeth i’r Pwyllgor.

Dywedodd: “Byddai niferoedd y bobl anabl a lefel y salwch hirdymor yng Nghymru yn awgrymu fod angen ffordd gyfannol a chadarn o fynd i’r afael â’r bylchau yn y cymorth a roddir i ofalwyr ifanc.”

Yn ei thystiolaeth hi, dywedodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru: “Mae’n amlwg mai un o’r meysydd allweddol y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael cymhwysedd deddfwriaethol drosto yw cynorthwyo’r ddarpariaeth gofal gan ofalwyr a hybu llesiant y gofalwyr hynny.”