Gyda chynnydd prisiau ynni a bwyd, a phecynnau cymorth allweddol y llywodraeth yn dod i ben, mae misoedd yn wynebu aelwydydd sydd eisoes mewn dyled oherwydd effeithiau pandemig COVID-19.
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi pobl sy’n cael trafferth cwrdd â chostau byw sylfaenol, gan rybuddio nad yw effaith llawn y pandemig wedi’n taro ni eto.
Mae adroddiad y Pwyllgor, Dyled a’r Pandemig, yn rhybuddio bod mwy o bobl yn mynd i ddyled nawr er mwyn cwrdd â hanfodion bob dydd, i dalu biliau neu dreth y cyngor, a bod cynnydd prisiau bwyd a thanwydd yn mynd i wthio pobl i dlodi dyfnach y gaeaf hwn.
Mewn ymateb i'r argyfwng sydd ar y gorwel, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o sicrhau fod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd Sgôr Effeithlonrwydd Ynni A i liniaru’r pwysau ar unigolion wrth i bris tanwydd gynyddu, ac i adolygu ei gynllun gweithredu tlodi tanwydd. Mae hefyd am i'r Llywodraeth weithio’n galetach i hyrwyddo gwasanaethau cyngor ar ddyled a ffynonellau credyd fforddiadwy er mwyn helpu pobl sydd mewn peryg o gwympo i ddyled yn ystod y chwe mis nesaf.
“storm berffaith” yn y misoedd i ddod
Roedd cynnydd cyson mewn costau byw yn bryder penodol i bobl a gymerodd ran yng ngrwpiau ffocws y Pwyllgor ar y mater. Roedd llawer o’r bobl fu’n rhannu eu profiadau yn cytuno nad ydyn nhw wedi teimlo gwir effaith y pandemig eto, gan gyfeirio at “storm berffaith” neu “tsunami” wrth ddisgrifio’u pryderon ariannol yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Dywedodd un cyfrannwr o Rondda Cynon Taf:
“Yr hyn sy’n fy mhoeni’n fawr yw cynnydd posib o 30% ym mhrisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny’n mynd i wthio pobl i dlodi Fictoraidd. Ac mae gennym ni'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae gennych chi lai o gyflenwyr oherwydd eu bod nhw'n cwympo, mae'r cap pris ynni wedi'i godi. . . Rwy'n poeni'n fawr am y flwyddyn nesaf. ”
Rhoddodd Sefydliad Bevan dystiolaeth i’r pwyllgor, gan nodi, yng Ngwanwyn 2021, fod eu hymchwil wedi canfod bod 10% o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi gyda bil, a bod dyled broblemus wedi dod yn fwy o broblem i’r rhai a oedd eisoes mewn mwy o berygl yn hyn o beth.
Ategwyd hyn gan ymchwil yr elusen StepChange a nododd ym mis Ionawr 2021 fod “21% o’r boblogaeth yng Nghymru yn cael anawsterau ariannol, a bod gan 7% broblem o ran dyled. Roedd cyfran uwch o oedolion Cymru (18%) wedi wynebu caledi ariannol yn ystod y pandemig nag yn Lloegr neu’r Alban.
Bu Cyngor ar Bopeth Cymru hefyd yn cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad, ac meddai Lee Chesterman, Dirprwy Arweinydd Tîm Cyngor Dinasyddion Caerdydd a’r Fro:
“Rydym yn gweld mwy a mwy o bobl yn brwydro oherwydd taliadau na ellir eu rheoli megis costau ynni cynyddol. Mae hynny ynghyd â chynnydd costau byw a chael gwared ar y codiad Credyd Cynhwysol yn ddiweddar yn bryder gwirioneddol.
“Wrth i amryw gefnogaeth a ariennir gan y llywodraeth ddod i ben dros y misoedd nesaf hefyd: rydym yn poeni. Ein prif bryder yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael i helpu pobl sy'n mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan godiad prisiau. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol agos rydym ni fel staff rheng flaen [Cyngor ar Bopeth Cymru] yn paratoi ar gyfer gaeaf caled a phrysur. ”
“Dim ond nawr yn dechrau teimlo gwir effaith y pandemig.”
Meddai Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol;
“Rydym yn wynebu gaeaf lle mae prisiau tanwydd a chostau bwyd ar gynnydd ac ar yr un pryd mae’r gefnogaeth allweddol a gafwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, a wnaeth gymaint i gadw pobl ar eu traed, yn dod i ben. Mae'n amlwg nad yw cartrefi ledled y wlad eto wedi dechrau teimlo effeithiau llawn y pandemig ar eu sefyllfa ariannol.
“Mewn cyfnod o galedi economaidd, mae pobl yn aml yn cael eu gorfodi i fynd i ddyled er mwyn ymateb i broblemau ariannol uniongyrchol. Mae’n ddychrynllyd bod mwy o bobl bellach yn cymryd benthyciadau i dalu biliau, neu i brynu bwyd, nid ar gyfer eitemau ‘moethus’. Gall yr ateb tymor byr hwn yn hawdd troi’n broblem waeth yn y tymor hir.
“Mae ein hadroddiad yn awgrymu nifer o gamau i Lywodraeth Cymru eu cymryd fel bod cyngor a chymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Mae angen gwell data arnom i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ac i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi dyled.
“Gyda chostau ynni ar gynnydd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu cynlluniau i ôl-osod cartrefi cymdeithasol er mwyn cwrdd â safonau effeithlonrwydd ynni llawer uwch ac i adolygu ei chynllun gweithredu tlodi tanwydd.”
Yr Argymhellion
Mae’r Pwyllgor wedi nodi 14 o argymhellion yn ei adroddiad a fydd nawr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Argymhelliad 3. Yn ei hymateb, dylai Llywodraeth Cymru nodi pa fesurau ychwanegol y bydd yn eu rhoi ar waith i hyrwyddo gwasanaethau cyngor ar ddyled i grwpiau sy’n agored i niwed ac sydd mewn mwy o berygl o fynd i ddyled, er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau diwygiedig o fewn y tri mis nesaf i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, er mwyn sicrhau eu bod ar waith ymhell cyn y cynnydd nesaf i’r cap ar brisiau ynni a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2022.
Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru roi eglurder yn ei Chyllideb Ddrafft ynglŷn â sut y bydd yn dyrannu digon o arian hyd at 2024-25 i gyflymu cynlluniau i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd Sgôr Effeithlonrwydd Ynni A i liniaru’r cynnydd mewn tlodi tanwydd o ganlyniad i gostau ynni sy’n cynyddu.