Dylid gosod system chwistrellu dŵr ym mhob cartref newydd er mwyn arbed bywydau, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylid gosod system chwistrellu dwr ym mhob cartref newydd er mwyn arbed bywydau, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

12 Tachwedd 2010

Mae cyfraith arfaethedig newydd a fyddai’n gorfodi adeiladwyr i osod systemau chwistrellu dwr awtomatig mewn cartrefi newydd a adeiladir yng Nghymru wedi’i chefnogi gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyflwynwyd y Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) gan Ann Jones yr Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd wedi iddi ennill pleidlais yr Aelodau i gyflwyno deddfwriaeth.

Yn dilyn ymchwiliad a barodd bedwar mis, pan glywyd tystiolaeth gan y Gwasanaeth Tân, adeiladwyr tai a chynrychiolwyr o’r diwydiant dwr, mae’r Pwyllgor bellach wedi argymell bod Aelodau’r Cynulliad yn cefnogi’r Mesur arfaethedig mewn egwyddor.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn derbyn bod diogelwch tân yn y cartref wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd, a bod cartrefi a gaiff eu hadeiladu heddiw yn debygol o fod wedi’u hamddiffyn yn well rhag effeithiau tân na thai sy’n hyn.

“Fodd bynnag, mae’n amhosibl anwybyddu’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni – bod 80 y cant o farwolaethau ac anafiadau o dân yng Nghymru yn digwydd yn y cartref.

“Awgryma hyn bod camau ychwanegol yn ofynnol yn hyn o beth, ac rydym wedi clywed tystiolaeth gadarn y byddai systemau llethu tân awtomatig yn fanteisiol ac yn darparu buddion sydd y tu hwnt i ofynion diogelwch tân cyfredol, yn cynnwys canfyddwyr mwg gwifrog .”

Bydd y Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) yn awr yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Tachwedd pan fydd y Cynulliad yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r mesur.

DIWEDD.