Dylid gwneud mwy i leihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru– yn ôl un bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2013
Dylid gwneud mwy i leihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dod i'r casgliad bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau ymysg rhieni sy'n disgwyl a gweithwyr meddygol proffesiynol.
Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor mai marw-enedigaeth yw'r math mwyaf cyffredin o farwolaeth plant yng Nghymru o hyd a bod tua phedwar baban yn marw bob wythnos.
Dysgodd Aelodau'r Cynulliad hefyd er bod nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau ymysg plant wedi gwella yn ystod y degawd diwethaf, prin fod nifer yr achosion o farw-enedigaethau wedi newid ers y 1990au.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes un ateb i ddatrys y broblem, a bod angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ymhellach ar gymryd camau weddol fach ym meysydd ymchwil meddygol a gwybodaeth i'r cyhoedd i helpu'r rhai sy'n bwriadu dechrau teulu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Mae'n argymell, yn wyneb diffyg cyllideb ar raddfa fawr gan elusennau a'r sectorau diwydiant perthnasol, bod Llywodraeth Cymru'n gwneud defnydd arloesol o adnoddau ymchwil sy'n bod eisoes i ymchwilio i achosion marw-enedigaethau.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol “Mae marw-enedigaeth yn drasiedi sy'n distrywio teuluoedd. Ac eto, mae ein hymwybyddiaeth, fel poblogaeth, o farw-enedigaeth – yn benodol yr hyn sy'n ei achosi a'r hyn y gellir ei wneud i'w rwystro – yn bryderus o isel,”.
“Fel Pwyllgor, does dim amheuaeth gyda ni fod modd lleihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru.
“Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaeth a'r peryglon sy'n gallu cyfrannu tuag ato ymysg y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.
“Mae angen rhagor o ymdrech hefyd i ddeall achosion marw-enedigaeth, yn enwedig gan fod hanner y marwolaethau'n cael eu cofnodi'n ‘ddiesboniad’.”
Gwnaeth y Pwyllgor naw o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
bod Llywodraeth Cymru'n arwain yn weithgar – drwy'r Gweithgor Cenedlaethol ar Farw-enedigaethau a sefydlwyd yn ddiweddar – i ddatblygu negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol fel mater o flaenoriaeth;
bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chyrff proffesiynol a byrddau iechyd yng Nghymru i sicrhau bod pob darpar riant yn cael gwybodaeth ddigonol gan glinigwyr a bydwragedd am farw-enedigaethau a’r risg gysylltiol; a,
bod Llywodraeth Cymru, drwy Ganolfan Ymchwil Glinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn comisiynu darn cynhwysfawr o waith ar achosion gwaelodol marw-enedigaethau.
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol