Dylid llacio rheolau perchnogaeth draws gyfrwng i sicrhau dyfodol papurau newydd yng Nghymru.
Dylai Llywodraeth Cymru lobïo Gweinidogion San Steffan yn galed i lacio rheolau perchnogaeth draws-gyfrwng.
Dyna oedd casgliad allweddol pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad ar ôl treulio tri mis yn ymchwilio i’r diwydiant papurau newydd yng Nghymru. Ond mae’r aelodau am sicrhau y bydd unrhyw gamau i lacio’r rheolau’n cael eu cymryd law yn llaw â mesurau i sicrhau lluosogrwydd yn y cyfryngau lleol.
“Mae her sy’n wynebu’r diwydiant papurau newydd yn bellgyrhaeddol,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor yr is-bwyllgor Darlledu.
“Os nad oes camau’n cael eu cymryd ar unrhyw lefel gan randdeiliaid, mae posibilrwydd y bydd y diwydiant papurau newydd yn diflannu.
“Mae parhad y diwydiant yn dibynnu ar ei allu i newid ac ymateb i’w pwysau hyn.
“Bydd unrhyw ateb llwyddiannus yn debygol o fod yr un mor bellgyrhaeddol a gobeithio y bydd y diwydiant papurau newydd a’r ddwy lywodraeth yn gweithredu’n gyflym ac yn briodol i ddiogelu papurau newydd yng Nghymru a’u cyfraniad gwerthfawr.”
Dyma argymhellion eraill yr adroddiad:
Dylai llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â chwmnïau ac undebau papurau newydd i archwilio dulliau o gynnal newyddiaduriaeth Saesneg yng Nghymru.
Wrth gynllunio’i strategaeth hysbysebu, dylai llywodraeth Cymru ystyried cylchrediad y papurau newydd dan sylw a gofalu nad yw’r teitlau perthnasol yn cael eu hesgeuluso. Wrth wneud hynny, dylai llywodraeth Cymru sicrhau bod cwmnïau papurau newydd yng Nghymru yn ymwybodol o’i strategaeth hysbysebu.
Adroddiad ar y Diwydiant Papurau Newydd yng Nghymru.