Mae'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon wedi'i gwreiddio'n ddwfn, mae’n ystyrlon ac yn ddeinamig, ac fe'i cydnabyddir fel y berthynas ryngwladol strategol fwyaf datblygedig rhwng Llywodraeth Cymru a gwlad arall.
Ddydd Gŵyl San Padrig eleni, mae Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol yn ystod y Chweched Senedd, gan nodi argymhellion allweddol ynghylch sut y dylid parhau i gryfhau'r bartneriaeth bwysig hon yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r adroddiad yn adeiladu ar ymchwiliad y Pwyllgor yn 2023 ac yn trafod y datblygiadau ers adnewyddu'r Datganiad ar y Cyd 2030 – sef y cytundeb cydweithredu ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon, sy'n nodi fframwaith ar gyfer cydweithio hyd at ddiwedd y degawd.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Wrth i’r Senedd hon ddirwyn i ben, rydym yn galw ar i’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon barhau’n flaenoriaeth glir i Lywodraeth nesaf Cymru. Mae ein gwaith wedi dangos pa mor werthfawr a llewyrchus yw'r cysylltiadau rhwng ein cenhedloedd, gyda chyfleoedd ar gyfer cydweithredu dyfnach mewn meysydd fel diwylliant, iaith, teithiau cyfnewid gan bobl ifanc, ynni ac ymchwil.
“Rydym yn annog y Llywodraeth i ymrwymo o’r newydd i’r Datganiad ar y Cyd 2030, i godi proffil cysylltiadau diwylliannol a chreadigol Cymru â’r Undeb Ewropeaidd, i gynnwys rhanddeiliaid mewn ffordd fwy ystyrlon ac i sicrhau bod lefelau cyllid yn cadw i fyny â’r uchelgais sydd ei hangen arnom i gefnogi’r berthynas hon.
“Ein hapêl i bwyllgor o’r Senedd yn y dyfodol yw parhau â’r gwaith hwn, fel bod y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn cadw ei statws arbennig er mwyn sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael ei golli.”
Argymhellion y Pwyllgor
Mae'r Pwyllgor yn gwneud pum argymhelliad i sicrhau dyfodol y cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon, fel a ganlyn:
- Dylai cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon barhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru, gydag ymrwymiad o’r newydd i'r Datganiad ar y Cyd 2030.
- Dylid codi proffil y berthynas newydd â'r UE, yn enwedig yn y sectorau diwylliannol a chreadigol, gan gynnwys atebion ar y cyd ar gyfer artistiaid teithiol a chyfranogiad mewn rhaglenni'r UE.
- Dylid rhoi cyfleoedd ystyrlon i randdeiliaid gyfrannu at weithredu’r Datganiad ar y Cyd 2030.
- Rhaid i gyllid blynyddol fod yn ddigonol ac yn gyson i gefnogi cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon a gweithredu’r Datganiad ar y Cyd.
- Dylai pwyllgor o’r Senedd yn y dyfodol barhau i weithio ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon i sicrhau bod y berthynas hon yn cadw ei statws arbennig a bod argymhellion yn cael eu gweithredu.